Amddiffyn bywyd gwyllt mewn coed a gwrychoedd.

Er y gall coed a gwrychoedd penodol fod heb eu hamddiffyn gan Orchmynion Cadw Coed neu’r Rheoliadau Gwrychoedd, mae’n bosibl y byddant o hyd yn bwysig i fywyd gwyllt a gallai fod amddiffyniad i rai o’r rhywogaethau bywyd gwyllt hyn hefyd.

Hyd yn oed os nad oes cynlluniau i gael gwared ar goed a gwrychoedd, neu dorri’r rhain, gallant gael eu difrodi mewn sawl ffordd yn ystod y broses ddatblygu, fel

  • Torri canghennau neu gael gwared ar rannau o wrychoedd er mwyn caniatáu mynediad i beiriannau adeiladu;
  • Cloddio trwy wreiddiau naill ai ar gyfer sylfeini neu wasanaethau;
  • Gall pentyrru neu storio deunyddiau trwm wrth y goeden neu’r gwrych wasgu gwreiddiau a’u hamddifadu nhw rhag cael dŵr;

 

Dylai mesurau i amddiffyn coed a gwrychoedd yn ystod gwaith adeiladu gael eu cynnwys fel rhan o’r cais cynllunio. Gall Awdurdod y Parc Cenedlaethol orfodi mesurau o’r fath ar ffurf amodau cynllunio.

 

Yn ogystal ag amddiffyn coed a gwrychoedd, mae’n bosibl y bydd angen ystyried rhai rhywogaethau a warchodir. Dyma rywogaethau a warchodir sy’n debygol o gael eu heffeithio:

Ystlumod

Adar

Pathewod

Moch Daear

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi cynhyrchu arweiniad i helpu rheolwyr coetiroedd gydymffurfio â deddfwriaeth Rhywogaethau Gwarchodedig Ewrop.