Coed a Chynllunio

Coed a Chynllunio

Fel rhan o gais cynllunio, mae’n bosibl y bydd angen rhoi manylion coed y mae datblygiad yn effeithio arnynt a sut caiff y rhain eu gwarchod.  Dylai’r arolwg gael ei gynnal gan Dyfwr Coed cymwys yn unol â’r Canllaw Safonau Prydeinig ar gyfer Coed mewn perthynas ag Adeiladu.  Gall presenoldeb unrhyw goed gael ei ystyried fel ystyriaeth berthnasol yn y broses o wneud penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i’r datblygiad arfaethedig.

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdod Cynllunio Lleol i sicrhau bod darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer amddiffyn a phlannu coed wrth roi caniatâd cynllunio.  Gall hyn gael ei wneud trwy ddefnyddio amodau cynllunio a/neu Orchmynion Cadw Coed.