Adeiladau, ysguboriau a strwythurau eraill

Hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch, mae’n bwysig ystyried rhywogaethau a warchodir sydd efallai’n byw mewn adeilad, yn enwedig pan gynigir ei ddymchwel. Efallai y bydd angen Trwydded Rheoliadau Cynefinoedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru arnoch os oes rhywogaethau a warchodir yno.

Trawsnewid Ysguboriau

Mae ysguboriau ac adeiladau fferm eraill yn gartref delfrydol i adar ac ystlumod. Mae’r mathau hyn o adeiladau fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd cefn gwlad ac felly’n debygol o fod yn agos at safleoedd bwydo dethol.

Gall ystlumod nythu mewn unrhyw fath o adeilad a bydd gwahanol rywogaethau yn ffafrio gwahanol lefydd. Mae craciau mewn waliau cerrig, ysguboriau agored neu ofod mewn to caeëdig i gyd yn llefydd efallai y byddai rhai ystlumod yn eu defnyddio. Wrth drawsnewid ysgubor, mae’n debygol iawn y bydd arolwg am ystlumod yn cael ei gynnal cyn bo modd cymeradwyo’r cynllunio.  Mae’n hanfodol adnabod pa rywogaethau o ystlumod a sut meant yn defnyddio’r adeilad. Bydd hyn yn affeithio amseru’r gwaith a pha nodweddion sydd angen cael eu hymgorffori yn y gwaith er mwyn i’r ystlumod allu parhau i ddefnyddio’r adeilad.

Gellir cael arolwg a lliniaru addas gan ecolegydd ystlumod trwyddedig a profiadol. Dylid trefnu gwaith arolygol yn fuan; gall arbed amser a chostau sydd ynghlwm â newid cynlluniau yn ogystal â gohirio rhaglenni gwaith. Mae nifer o ffyrdd i gynefino ystlumod mewn adeiladau, yn dibynnu ar y rhywogaeth sydd yno.  

Mae’n debygol y bydd angen trwydded Rheoliadau Cynefinoedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar unrhyw waith sy’n effeithio ar ystlumod.

Adar nythu mewn adeiladau fferm. Dylid cael arolwg am adar nythu, a thylluanod gwynion yn enwedig, yn gynnar yn y broses fel bod modd lliniaru dyluniadau pensaernïol. Ceir hyd i dylluanod gwynion mewn ysguboriau yn aml; maent yn ffyddlon iawn i’w safleoedd nythu ac mae angen ardal fawr o gynefin porthi o gwmpas y safle nythu arnynt. Mae adeiladau lle maent yn dewis nythu yn bwysig iawn ac efallai na fyddant yn goroesi pe bai’n rhaid iddynt symud. Mae’n eithaf hawdd rhoi blwch tylluan wen mewn ysgubor wedi’i drawsnewid; ceir mwy o ganllawiau gan yr Ymddiriedolaeth Tylluanod Gwynion (Barn Owl Trust)

Mae’n bosib bod adar eraill megis gwenoliaid y bondo a gwenoliaid yn defnyddio adeiladau fferm. Maen nhw a’u nythod yn warchodedig yn ystod y tymor nythu felly dylai gwaith gael ei wneud wedi iddynt adael. Mae modd cynnwys nythod wedi’u creu i bwrpas neu silffoedd nythu mewn dyluniad adeilad yn hawdd.

Estyniad ar dai, adnewyddu a thoi tai

Mae’n bosib y deuir ar draws ystlumod ac adar yn ystod gwaith megis trawsnewid croglofftydd, gosod goleuadau yn y to, adeiladu estyniad, yn ogystal â gwaith cyffredinol ar doeau. Defnyddiwch y siart lif rhestr wirio hwn i asesu a yw’n debygol bod angen arolwg ystlumod arnoch ynghyd â chais cynllunio i gydfynd â’r math hwn o ddatblygiad. Hefyd, mae modd cael arweiniad pellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cewch fwy o wybodaeth ar ymarfer da wrth gynefino ystlumod mewn adeiladau ar wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (Bats Conservation Trust).

Mwy o wybodaeth am ystlumod a chynllunio.