Ar hyn o bryd rydym yn derbyn nifer fawr o ymholiadau cynllunio a allai arwain at oedi cyn rhoi ymateb i chi o fewn yr amserlen a ddyfynnir ar y daflen gyngor.
Ein Hymrwymiad i’r Gwasanaeth
Byddwn yn ymgysylltu’n weithredol â’n cwsmeriaid er mwyn darparu cyngor cyn ymgeisio o safon uchel ar bob cynnig datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol gyda’r prif nod o “Ddarparu Datblygiadau o Safon yn Gyflym”.
Mae dwy ffordd o gael mynediad at gyngor cynllunio cyn ymgeisio. Y cyntaf yw’r gwasanaeth statudol, sydd â ffi sefydlog a bennir gan Lywodraeth Cymru am gyngor ysgrifenedig yn unig dra bod yr ail yn wasanaeth penodol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n wasanaeth mwy pwrpasol a manwl.
Rheoli Datblygu – Cyngor cyn ymgeisio statudol
Mae agwedd yr Awdurdod tuag at Reoli Datblygu yn parhau i osod pwysigrwydd sylweddol ar ddarparu’r cyngor gorau posibl i ddatblygwyr/ymgeiswyr posibl cyn y bydd cais cynllunio ffurfiol yn cael ei gyflwyno.
Mae’r Awdurdod wedi bod yn gweithredu gwasanaeth cyn ymgeisio ffurfiol mwy cynhwysfawr ac am dâl ers mis Ebrill 2010. Mae hwnnw wedi bod yn gweithredu’n dda o ran darparu gwasanaeth effeithiol i ymgeiswyr sy’n ymgysylltu â’r adran cyn cyflwyno cais ffurfiol ac o ran sicrhau bod y costau o ddarparu’r gwasanaeth pwysig hwn yn cael eu talu.
Gellir dod o hyd i fanylion ynglŷn â hyn drwy ddilyn y ddolen we ganlynol: Costau Cyngor Cyn Ymgeisio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cyflwynwch y ffurflen (Cyngor Cynllunio Cyn Ymgeisio Anstatudol) wedi’i chwblhau, ynghyd â’r wybodaeth ofynnol i planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk dylai’r ffi gael ei thalu trwy BACS, mae ein manylion banc wedi’u darparu yn y nodyn canllaw.
Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol (LPAs) yng Nghymru yn darparu Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol. O ganlyniad, mae’n ofynnol bod LPAs yn darparu cyngor cyn ymgeisio, pan fo’r ymgeisydd yn gofyn amdano, cyn i gais am ganiatâd cynllunio llawn neu amlinellol neu gais yn unol ag adran 73 Deddf 1990 gael ei gyflwyno iddynt.
- Nid yw hyn yn cynnwys cyngor ar ddatblygiadau ôl-weithredol.
- Caiff y taliadau am y gwasanaeth cyn ymgeisio statudol eu gosod ar lefel genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Nodwch, os gwelwch yn dda, ar sail cyngor gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, nad oes TAW yn daladwy am y gwasanaeth cyn cynllunio statudol.
- Nodwch, os gwelwch yn dda, unwaith y bydd cais am gyngor cyn ymgeisio yn cael ei ddilysu nad oes modd i ffioedd gael eu had-dalu.
- Bydd darparu cyngor dan y gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol yn dod i ben yn ffurfiol pan ddarperir ymateb ysgrifenedig i’ch cais.
Gellir dod o hyd i fanylion ynglŷn â hyn drwy ddilyn y ddolen we ganlynol: Gwasanaethau Cyn Ymgeisio Statudol Awdurdodau Cynllunio Lleol. Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen ynghyd â’r ffi ofynnol, os gwelwch yn dda.
Ni fydd unrhyw gyfarfodydd neu ymweliadau safle ar gyfer ymholiad cyn ymgeisio yn rhan o’r gwasanaeth statudol neu gyngor arbenigol ynghylch Adeiladau Rhestredig, Treftadaeth a Chadwraeth.