Os ydych chi’n bwriadu gwneud gwaith ar eich cartref, fel estyniad, garej domestig, gosod ffenestr yn y to ac ati, mae’n bosib y bydd angen cais cynllunio arnoch i wneud yr addasiadau hyn. Serch hynny, nid oes angen caniatâd cynllunio ar bob math o ddatblygiad, a gallwch wneud y mathau hyn o waith o dan eich ‘Hawliau Datblygu a Ganiateir’.
Fodd bynnag, mae’n bosib bod cais cynllunio blaenorol wedi tynnu eich Hawliau Datblygu a Ganiateir oddi ar eich eiddo. Os felly, bydd angen i ddeilydd y tŷ gyflwyno cais cynllunio am unrhyw addasiadau ac ychwanegiadau i’ch eiddo.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllawiau i’ch helpu i ddeall a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio ar gyfer unrhyw ddatblygiad y gallech fod yn ei ystyried. Mae’r canllawiau hyn i’w gweld yma (cyfeiriwch at adran ardaloedd gwarchodedig y llawlyfrr, sef y rhan sy’n berthnasol i ddatblygiad mewn P arc Cenedlaethol): Mae Canllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru i ddeiliaid tai hefyd ar gael yn:- Caniatâd cynllunio: hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliaid tai | LLYW.CYMRU
Gellir ceisio cyngor pellach hefyd gan Gymorth Cynllunio Cymru yn:- Cyngor Cynllunio – Cymorth Cynllunio Cymru
Os hoffech wybod a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig, dylech wneud cais ffurfiol am Dystysgrif Datblygiad Arfaethedig Cyfreithlon ac mae dyletswydd statudol arnom i ddarparu penderfyniad amdani o fewn 8 wythnos.
Fel arall, gellir ceisio cyngor cyn ymgeisio. Am ragor o wybodaeth gweler: https://bannau.wales/planning/applications/guidance-note-01-april-2014-charging-for-pre-application-planning-advice/
Gellir cael ceisiadau am ffurflenni cais cynllunio ac ymholiadau arferol syml o hyd trwy ffonio Desg Gymorth y Gwasanaethau Cynllunio ar 01874 624437 neu e-bostio planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk