Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu)(Cymru) 2012 (OS 2012 Rhif 801) a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2012 yn ei gwneud yn ofynnol bod ceisiadau’n cael eu cyflwyno ar ffurflen safonol. Gallwch gael copi ohoni o’n swyddfeydd neu drwy’r porth cynllunio www.planningportal.co.uk
Isod gwelir dolen i’n Gofynion Dilysu a fydd yn darparu canllawiau defnyddiol i ymgeiswyr baratoi a chynllunio i gyflwyno cais i’r Awdurdod. Bydd angen yr wybodaeth y gofynnir amdani gan Swyddfeydd er mwyn iddynt asesu cynnig y cais.
Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau newydd hefyd yn golygu newidiadau i’n trefniadau dilysu ni. Mae’r ddogfen ‘Gofynion Dilysu Rhagfyr 2010’ yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd fel y bydd yn gyson â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau newydd. Rydym yn gobeithio cyhoeddi dogfen Gofynion Dilysu newydd cyn bo hir. Gweler isod ddolen i nodyn cyngor Gofynion Dilysu Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
Os byddwch angen rhagor o gymorth sy’n ymwneud â’r wybodaeth sydd angen ei chyflwyno gyda’r cais cynllunio yna cysylltwch â’r Gwasanaethau Cynllunio:
E-bost: planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk
Ffôn: 01874 620431