Wrth feddwl am dir parc a gerddi mae pobl yn meddwl yn aml am erddi mawr ffurfiol y ddeunawfed ganrif oedd yn amgylchynu tai crand y bobl gefnog a’r teuluoedd bonedd. Fodd bynnag mae hen, hen hanes o ran creu parciau a gerddi, sy’n dyddio’n ôl mor bell â chyfnod y Rhufeiniaid.
Mae parciau a gerddi hanesyddol o bob oedran, lliw a llun yn rhan bwysig o’n treftadaeth. P’un ai a yw’n barcdir mawr sy’n amgylchynu plasty mawreddog o’r ddeunawfed ganrif, yn olion parc ceirw canoloesol neu’n ardd bwthyn syml, mae parciau a gerddi yn ein helpu i ddeall bywyd pobl yn y gorffennol. Roeddent yn gymaint o ran o fywyd pobl â’u cartrefi a’u tai, felly gallant daflu goleuni ar fywyd y rhai a’u creodd, a oedd yn berchen arnynt, yn eu defnyddio ac yn eu gweithio. Mae datblygiad ac esblygiad gardd dros amser yn adlewyrchu chwaethau a ffasiynau cyfnewidiol.
Yn y 1990au, cynhaliodd Cadw arolwg cynhwysfawr o’r parciau a’r gerddi hanesyddol yng Nghymru. Nododd y rhai a oedd o bwysigrwydd cenedlaethol a’u cynnwys ar Gofrestr Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru er mwyn helpu i’w gwarchod a’u cadw. Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae 17 o barciau a gerddi cofrestredig a rhai o bwysigrwydd cenedlaethol, sy’n amrywio o’r ddeuddegfed ganrif i’r ugeinfed ganrif. Ar y cyfan, mae’r safleoedd hyn dan berchenogaeth breifat ac nid ydynt ar agor i’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae un o’n parciau a’n gerddi cofrestredig, sef Parc Gwledig Craig-y-nos, safle 40 erw sy’n rhan o Gastell fictoraidd Craig-y-nos, yn hawdd ei gyrraedd ac ar agor i’r cyhoedd.
Rhagor o ddeunyddiau darllen:
Elizabeth Whittle (1992) The Historic Gardens of Wales Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi
Cadw ac ICOMOS UK (1999) Register of Landscape, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part One: Parks and Gardens. Powys Caerdydd: Cadw
Cadw ac ICOMOS UK (1994) Register of Landscape, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part One: Parks and Gardens. Gwent Caerdydd: Cadw
Cadw ac ICOMOS UK (1994) Register of Landscape, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part One: Parks and Gardens. Additional and Revised Entries. Caerdydd: Cadw