Adroddiadau Blynyddol a Chynlluniau Gwella
Cynllun Gwella Busnes – ar gael yma.
Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Gwella – yn cynnwys y weledigaeth gorfforaethol, cynlluniau darparu gwasanaethau, a thargedau perfformiad.
Adroddiad Asesiad Corfforaethol – ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru
Bioamrywiaeth
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol – Cynhyrchwyd gan bartneriaeth o bobl a sefydliadau lleol gyda’r nod o warchod a gwella bioamrywiaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cyfathrebu
Strategaeth Gyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus – Fframwaith ar gyfer cyfathrebu gwaith yr Awdurdod i’r cyhoedd
Cwynion
Cyngor yn Gymraeg a Saesneg ar sut i wneud cwyn neu roi adborth i’r Awdurdod
Anabledd
Asesu Effaith ar Gydraddoldeb i Bobl Anabl – Cynhyrchwyd gan swyddogion yr Awdurdod er mwyn asesu bod yr Awdurdod wedi ystyried anghenion pobl anabl.
Cynlluniau Gweithredu Anabledd – Cynlluniau gweithredu sy’n cael eu cyhoeddi’n flynyddol
Cynllun Cydraddoldeb Anabledd – Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Mae’n cynnwys dadansoddiad o arferion yr Awdurdod o ran mynediad, cyfathrebu, cyflogaeth a darparu gwasanaeth.
Templedi Gwag ar gyfer Datganiadau Mynediad ac Ymwybyddiaeth o Anabledd.
Rhywedd
Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol – Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi o dan ddarpariaethau’r Bil Cydraddoldeb. Mae’n cynnwys dadansoddiad o arferion a pholisïau’r Awdurdod sy’n ymwneud â gweithwyr a darparu gwasanaeth.
Cynllun Gweithredu’r Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol – Diweddariad Awst 2008 – Diweddariad ar y camau sydd wedi’u cymryd mewn perthynas â’r Cynllun gweithredu cydraddoldeb rhywiol.
Y Ddraig Werdd
Cynllun Amgylcheddol y Ddraig Werdd – Mae hwn yn gosod y safonau ar gyfer sut mae’r Awdurdod yn rhedeg ei fusnes yn unol ag egwyddorion da o ran rheoli amgylcheddol a chynaliadwyedd.
Polisi Amgylcheddol – Y camau y bydd yr Awdurdod yn eu cymryd i liniaru effeithiau amgylcheddol allweddol.
Dehongli
Strategaeth Ddehongli 2007 – Strategaeth i ddatblygu ac i reoli’r Parc yn gynaliadwy drwy godi ymwybyddiaeth ymwelwyr am bwysigrwydd cadwraeth a thwristiaeth gynaliadwy, a thrwy hynny ddylanwadu ar ymddygiad ymwelwyr.
Adroddiad yr Ombwdsmon
Dyma adroddiad archwilio am gŵyn a wnaed gan Mr O yn erbyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys. Roedd yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi sylw i’r ffordd roedd yr Awdurdod wedi ymdrin â chais cynllunio ar gyfer safle i sipsiwn.
Cynllunio a Hawliau Tramwy
Cynlluniau Datblygu – Polisïau a chynlluniau sy’n arwain y ffordd y caiff tir yn y Parc Cenedlaethol ei ddatblygu.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (RoWIP) – Adolygiad o gyflwr y rhwydwaith llwybrau cyhoeddus, sut y caiff ei reoli, a sut y gellir ei wella ar gyfer yr holl ddefnyddwyr cyfreithlon. Mae’r cynllun yn nodi’r holl staff a’r adnoddau ariannol angenrheidiol er mwyn cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith hwn.
Cynllun Cyhoeddi
Cynllun Cyhoeddi – Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi o dan ddarpariaethau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2001. Ceir rhestr o’r dosbarthiadau o wybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod, y modd y bydd yn bwriadu cyhoeddi’r wybodaeth honno, ac a fydd yn codi ffi am y wybodaeth.
Twristiaeth
Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy 2007 – Fframwaith i sicrhau bod twristiaeth gynaliadwy yn cael ei datblygu a’i rheoli’n llwyddiannus gan edrych ar brofiad ymwelwyr â’r Parc dros y pum mlynedd nesaf a’r tu hwnt.
Strategaeth Twristiaeth Cerddwyr – Strategaeth yw hon i ddatblygu a rheoli cyfleoedd i ymwelwyr fwynhau cerdded yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r cyffiniau. Y bwriad yw ceisio codi proffil y Bannau Brycheiniog fel cyrchfan sy’n ddewis cyntaf i gerddwyr.
Cynllun Iaith Gymraeg