Dibenion a dyletswyddau statudol Parciau Cenedlaethol a bennwyd yn Neddf yr Amgylchedd 1995
Ein Dibenion Statudol
- gwarchod a chynyddu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol
- hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol
Ein Dyletswydd Statudol
- meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau sy’n byw o fewn y Parc Cenedlaethol
Mae’r Dibenion Statudol a’n dyletswydd Statudol yn sail i’r holl waith rydym yn ei wneud. Mae’n ganolog i’n gweledigaeth tymor hir ar gyfer y dyfodol ac yn fan cychwyn i’r holl ddogfennau strategol rydym yn eu cynhyrchu.
Mwy am ein gweledigaeth a dogfennau strategol