Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n disgrifio blaenoriaethau’r Llywodraeth a’i hymrwymiadau i bobl Cymru. Rwy’n grediniol bod gan ein Hawdurdodau Parciau Cenedlaethol ran allweddol i’m helpu i gyflawni dros bobl Cymru. Yn arbennig, dylech alinio’ch gwaith â’r prif Nodau Llesiant, gan gynnwys:
- Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a
diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol - Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio gymaint â phosibl
- Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
- Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
- Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt
Yn arbennig, rwyf am weld y Parciau Cenedlaethol yn dod yn esiamplau i eraill o ran eu hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydych mewn sefyllfa unigryw i drafod â’r cymunedau o fewn eich ffiniau i ddatblygu atebion ddaw â budd i bobl a’r amgylchedd.
Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gartref i gymunedau amaethyddol sydd wedi gweithio yn y tirweddau hyn a’u saernïo dros filoedd o flynyddoedd. Mae ffermio cynaliadwy’n rhan annatod o’n tirwedd a gall fod yn sail i amcanion llawer o’r polisïau a ddisgrifir yn y llythyr hwn. Hoffem eich gweld yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu trywydd
ar gyfer ffermio cynaliadwy a chefnogi ffermwyr i weithredu mewn ffordd all wneud y Parciau Cenedlaethol yn fwy bioamrywiol, gyda gwaith coedwigo ac adfer cynefinoedd lle bo’u hangen, yn ogystal â chynhyrchu bwyd.
Fel rhan o’n hymateb ar gyfer taclo’r argyfwng natur, rwyf wedi ymrwymo i’r targed 30×30. Bydd dynodiadau ar raddfa’r tirlun, fel Parciau Cenedlaethol, yn bwysig i ni o ran taro’r targed hwn ond dydyn nhw ddim yn cael eu rheoli’n effeithiol ar hyn o bryd er lles bioamrywiaeth, hynny oherwydd y dynodiad gwreiddiol. Byddaf yn cynnal astudiaeth fanwl
ddechrau 2022-23, yn canolbwyntio ar sut i daro’r targed 30×30. Hoffwn i’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gymryd rhan yn y broses hon er mwyn i ni allu ystyried beth sydd angen ei wneud i ddwysáu’r gweithredu dros fioamrywiaeth yn y dynodiadau hyn. Yn dilyn yr astudiaeth, bydd disgwyl
wrth reswm i ni weithio gyda’n gilydd ar y camau y byddwn wedi cytuno arnyn nhw. Bydd y swyddi Bioamrywiaeth cydweithredol newydd rwyf wedi cytuno i’w cefnogi yn hwyluso hynny.
Mae twristiaeth yn faes arall rwy’n gweld y bydd gan Barciau Cenedlaethol ran bwysig ynddo. Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er lles Cymru. Mae pobl yn dewis ymweld â Chymru i fwynhau’n hamgylchedd naturiol arbennig yn ogystal â phrofi’n diwylliant, gan gynnwys y Gymraeg. Mae gan Awdurdodau’r Parciau rôl hollbwysig o ran ein helpu i reoli ymwelwyr, sicrhau bod cymunedau’n cael elwa ar dwristiaeth a lleihau’i heffeithiau negyddol ar bobl a’r amgylchedd.
Daeth yn amlwg bod gormod o bwysau ar y seilwaith lleol yn gallu amharu ar brofiad ymwelwyr a rhoi straen ar y berthynas â chymunedau lleol. Ymgymerodd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol â rôl arweiniol bwysig yn ystod y pandemig diweddar a byddwn yn disgwyl i hynny barhau wrth i ni ddod ohono. Hoffwn ddiolch i chi am eich gwaith pwysig wrth ymateb i bandemig Covid19. Rwy’n ddiolchgar hefyd i’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol am y ffordd y gwnaethon nhw gydweithio â chyrff eraill ac â thimau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Mae hon yn agwedd y carwn ei gweld yn datblygu yn y dyfodol.
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni’n ymrwymo i greu Parc Cenedlaethol newydd yn y gogledd-ddwyrain, a hoffwn i chi ein helpu gyda’r broses hon yn ôl yr angen.
Rwyf am weld ein perthynas yn parhau’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch i’n gilydd, ac ar gyfathrebu gonest ac agored. Trwy bartneriaeth waith effeithiol, gall yr Awdurdod ffynnu a chynyddu’n heffaith er lles pobl a’r amgylchedd. Mae’ch statws fel Awdurdod ag iddo bwrpas arbennig yn rhoi cryn annibyniaeth weithredol i chi, a rhaid i chi wrth reswm gael eich arwain bob amser gan eich dibenion statudol. Rwy’n disgwyl i chi barhau i chwilio am ffyrdd i sicrhau’r safonau llywodraethu gorau posibl ac rydym yn awyddus i’ch helpu yn hynny o beth pan fydd hynny’n briodol. Yn arbennig, rwyf am eich gweld yn rhoi’r arferion gorau ar waith ynghyd ag unrhyw argymhellion ddaw o’r gwaith thematig sy’n cael ei wneud gan Archwilio Cymru. Rydyn ni am ichi wneud mwy i hyrwyddo amrywiaeth, a manteisio’n llawn ar yr arweinydd strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth Lywodraethu.
Yn unol â’r Ddogfen Fframwaith, y seilir perthynas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol â Llywodraeth Cymru arni, dylech nawr adolygu’ch cynlluniau busnes a dangos sut y byddwch yn cyflawni yn y meysydd a ddisgrifir yn y llythyr hwn a’i atodiadau. Bydd gofyn wrth reswm i ni fonitro’ch cynnydd o ran y blaenoriaethau hyn dros gyfnod y Llywodraeth hon, mewn ffordd a fydd yn addas i’ch cyd-destun lleol. Carwn i chi weithio gyda’m swyddogion i glustnodi nifer fach o ddangosyddion priodol ar gyfer monitro cynnydd yn effeithiol yn unol â’r blaenoriaethau hyn. Y data hyn, ynghyd ag adroddiad naratif byr, fydd man cychwyn ein trafodaethau rheolaidd dros dymor y Llywodraeth hon. Drwy hyn, byddwn yn gallu bodloni’n hunain, Archwilio Cymru a’r cyhoedd ein bod yn wir cyflawni, ac os down ar draws anawsterau, ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i’w trechu.
Diben y llythyr Tymor Llywodraeth hwn yw rhoi fframwaith clir i chi weithio ynddo dros y blynyddoedd i ddod. Rwyf wedi rhestru yn Atodiad A y prif bethau y bydd disgwyl ichi eu cyflawni mewn perthynas â’r Rhaglen Lywodraethu. Mae’r cyd-destun strategol ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn un uchelgeisiol sy’n esblygu ac mae’r prif ystyriaethau wedi’u cofnodi yn Atodiad B.
Yn ogystal â’r llythyr Tymor Llywodraeth hwn sy’n disgrifio’n huchelgeisiau ar gyfer y blynyddoedd nesaf, byddaf yn anfon llythyr grant byrrach atoch i gadarnhau’n dyfarniad cyllidebol blynyddol.
Mae llawer eto i’w wneud, ond rwy’n argyhoeddedig y gall fy mhortffolio wneud gwahaniaeth positif a pharhaol i fywydau pobl Cymru. Rwy’n disgwyl ymlaen at wneud hynny gyda chi.
Yn gywir,
Julie James AS/MS
Gweinidog Newid Hinsawdd