Caiff y gornchwiglen ei galw weithiau’n ‘pî-wît’, sef enw sy’n dynwared ei galwad. Mae’r aderyn du a gwyn hwn weithiau’n ymddangos fel petai’n hedfan yn sigledig drwy’r awyr ac mae siâp crwn ei adenydd yn nodwedd amlwg iawn, heb sôn am y crib ysblennydd.
Mae’n well gan gornchwiglod fridio a chlwydo ar dir fferm gyda chnydau wedi’u hadu yn y gwanwyn, ar laswelltiroedd llaith agored neu ar rostiroedd sy’n agos at gymysgedd o gaeau âr a glaswelltiroedd parhaol. Mae’r lleoliadau hyn yn darparu cyflenwad cyson o fwydod a phryfed iddynt eu bwyta. Yn y gaeaf, gallwch eu gweld mewn caeau âr a glaswelltiroedd soeglyd.
Ledled y DU, mae niferoedd cornchwiglod wedi gostwng i lefelau trychinebus yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Rydym yn dal i ymchwilio i’r rhesymau dros y gostyngiadau hyn, ond dyma rai o’r ffactorau posib:
- Colli cynefinoedd addas (e.e. ffermio mwy dwys a cholli glaswelltiroedd llaith heb eu gwella drwy ddraenio)
- Aflonyddu ar safleoedd a dinistrio nythod yn ystod y tymor bridio (e.e. gan stoc oherwydd pori mwy dwys, oherwydd amseru gweithgareddau amaethyddol megis aredig, neu oherwydd pwysau hamdden cynyddol ar safleoedd)
- Diffyg cyflenwad bwyd (mwydod a phryfed) oherwydd defnydd cynyddol o gemegolion
- Risg gynyddol o ysglyfaethu gan rywogaethau megis y llwynog a’r boncath ar safleoedd sy’n agored i niwed
Am ragor o wybodaeth ar anghenion cynefinol y gornchwiglen, ewch i wefan yr RSPB – cliciwch yma.
Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith am wybodaeth am rywogaethau eraill yn y Parc Cenedlaethol.