Ffeniau a Rhuthrau Dŵr Uwchdir

Caiff y rhuthrau dŵr hyn eu gweld yn y dirwedd yn aml fel llinellau o frwyn a gellir eu teimlo fel dŵr ffo sy’n llifo’n araf dros y tir. Mae’r ardaloedd gwlypach hyn yn ffurfio clytwaith â chynefinoedd eraill megis porfa rostir a gorgorsydd. Gallant fod yn bwysig i nifer o infertebratau sydd angen dŵr ffo a gallant ganiatáu i blanhigion gwlyptir a mwsoglau cors dyfu. Mae’r bwyd infertebratau a brwyn heb eu pori’n cynnig cysgod i adar a mamaliaid bach, gan wneud yr ardaloedd hyn yn rhan bwysig o’r dirwedd uwchdir.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd uwchdir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.