Gorgors

Mae nifer o rywogaethau o fwsoglau cors o’r enw Sphagnum yn byw mewn gorgorsydd yn bennaf. Maent yn tyfu i ffurfio lawntiau a phonciau brown, oren a gwyrdd. Mae pennau hadau blewog o blu’r gweunydd yn frith o wyn ar y tir yn yr haf ac mae grugoedd yn ychwanegu arlliw o borffor tua diwedd yr haf.

Mae’r unig faetholion a roddir i’r pridd yn cyrraedd gyda’r glaw ac felly maent yn brin. Mae chwyth yr haul yn blanhigion cigysol sy’n ategu eu deiet drwy ddal pryfed ar flew gludiog. Gall chwyth yr haul ffurfio carpedi dwys o amgylch corsydd, gan droi’r glannau’n goch llachar. Mae’r corsydd hyn yn gartref i amrywiaeth eang o bryfed, yn enwedig gweision y neidr a mursennod, sydd i’w gweld yn gwibio dros y corsydd yn yr haf. Mae gweision y neidr eurdorchog a gweision y neidr clwbgwt i’w cael wrth gorsydd yn y Parc Cenedlaethol drwyddo draw.

 

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd uwchdir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.