Rhywogaethau uwchdir

Mae’r Rugiar Goch yn aderyn gêm tew sydd ond i’w gael ar rostiroedd ucheldirol. Yn y gorffennol, câi dulliau rheoli llawer o ardaloedd grugog eu teilwra i annog clystyrau grug ar gyfnodau gwahanol yn eu tyfiant, a fyddai’n annog y Rugiar Goch. Ychydig o egin sy’n bodoli yn y Parc Cenedlaethol ac mae lledaenu rhedyn a glaswelltiroedd wedi lleihau’r ardaloedd sydd ar gael ar gyfer y Rugiar Goch. Mae i’w weld o hyd mewn ardaloedd o rug dwys, lle y bydd yn cuddio o’r golwg hyd nes bod tarfu arno, ac os digwydd hynny, bydd yn hedfan i ffwrdd yn sydyn gan blymio’n ôl i’r grug cryn bellter i ffwrdd.

Darllenwch fwy am y Grugiar Goch ar wefan yr RSPB.

Aderyn arall sydd i’w weld ar y rhostiroedd grugog yw’r Cornicyll Aur. Mae ganddo blu euraid unigryw yn yr haf. Yn y gaeaf, maent yn symud i’r tiroedd is lle maent yn ffurfio heidiau mawr, weithiau gydag adar eraill megis Cornicyll.

Darllenwch fwy am y Cornicyll Aur ar wefan yr RSPB.

Y ffordd hawsaf o ddisgrifio Mwyalchen y Mynydd yw fel aderyn mynydd du. Mae ychydig yn llai na’i gefnder, ac mae gan wrywod fand gwyn trawiadol ar draws eu brest. Mae Mwyeilch y Mynydd yn brin yn y Parc Cenedlaethol erbyn hyn a dim ond mewn ychydig o ardaloedd uwchdir anghysbell maent i’w cael. Maent yn ymweld â’r parc yn yr haf a byddant yn bwyta amrywiaeth o bryfed ac aeron.

Darllenwch fwy am Mwyalchen y Mynydd ar wefan yr RSPB

Mae Hebog yr Ieir yn aderyn ysglyfaethus ysblennydd sy’n brin iawn yn y DU erbyn hyn. Câi ei hela’n helaeth ar un adeg gan ei fod yn bwyta adar gêm yn bennaf. Caiff ei warchod yn y DU erbyn hyn, ond gellir ei weld yn y Parc Cenedlaethol yn gwibio dros yr uwchdiroedd grugog yn y gaeaf.

Darllenwch fwy am Hebog yr Ieir ar wefan yr RSPB.

Mae Mursen y De yn rhywogaeth sydd o dan fygythiad yn rhyngwladol ac sydd ond i’w chael yng ngorllewin Ewrop a gogledd Affrica. Prydain yw ei lleoliad fwyaf gogleddol, lle mae’n bridio mewn nentydd ar rostiroedd. Mae’n llai na’r rhan fwyaf o Fursennod eraill, mae’n wan o ran hedfan ac yn bur anaml y bydd yn hedfan yn uwch na’r glaswelltiroedd o’i hamgylch.

Gallwch weld delweddau a chael rhagor o wybodaeth am Fursen y De ar wefan Arkive.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio mwy o’r uwchdiroedd neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol