Rhostir

Ar rostiroedd gwirioneddol mae grugoedd a llus yn ffurfio mwy na chwarter y llystyfiant gan fod y planhigion hyn i’w cael ar gynefinoedd eraill megis gorgorsydd. Mae’r grugoedd yn cynnig cysgod a lloches i nifer o rywogaethau eraill megis grugieir coch. Mae rhostir isel yn fwy amrywiol o ran rhywogaethau’n cynnal nifer o bryfed sy’n cael eu denu at y cymysgedd o fywyd planhigion ac ardaloedd o dir llwm a chynnes.

Mae eithin, glaswelltiroedd, rhedyn a choed oll wedi’u gwasgaru dros rostiroedd ac maent yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae’r rhywogaethau hyn oll yn tueddu i daflu eu cysgod ar y grug isel ac mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth. Caiff hyn ei wneud drwy gyfuniad o losgi a phori fel arfer. Y dull rheoli hwn a anogodd ddatblygu rhostir ar draws y Parc Cenedlaethol.

Mae rheoli pori’n hollbwysig i gynnal strwythur iach ar y rhostiroedd. Mae llawer o’r rhostir ym Mannau Mrycheiniog i’w gael ar dir comin ac felly, caiff ei bori gan anifeiliaid sy’n cael eu troi allan gan y Cominwyr.

Darllenwch fwy am rheoli pori ar y rhostir.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd uwchdir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.