Bydd cerddwyr lleol, pobl â chŵn yn enwedig, sydd eisoes yn cerdded llwybrau cylchol, felly ni fyddwch yn cychwyn â llechen lân. Gallwch ddefnyddio ac addasu’r teithiau hyn, os yw hynny’n addas ar gyfer eich amcanion. Mae’n bosib y bydd Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu bod yn rhan o’r prosiect ar y pwynt hwn er mwyn eich rhagrybuddio am ystyriaethau diogelwch, materion ynghylch tirfeddianwyr neu gynnal a chadw.
Bydd y daith rydych yn ei dewis yn cael ei phenderfynu ar sail nifer o ffactorau, yn cynnwys pa hawliau tramwy, os oes rhai, sy’n mynd drwy eich annedd, neu gerllaw iddo.
I ddechrau, cynlluniwch eich taith gan ddefnyddio map Explorer 1:25000 yr Arolwg Ordnans ar gyfer eich ardal. Mae’r gyfres hon o fapiau yn fan cychwyn da gan fod yr holl hawliau tramwy sydd wedi’u cofnodi yn cael eu harddangos ynddynt, yn ogystal â mynediad i dir agored a thir comin cofrestredig ynghyd â mynediad caniataol penodol. Gall y rhain i gyd gael eu defnyddio ar gyfer mynediad ar droed.
Cyn cysylltu ag unrhyw un am gymorth neu gyngor, mae angen i chi fod wedi meddwl am lwybr eich taith gerdded a’i effaith ar dirfeddianwyr. Ydych chi’n gwybod pwy sy’n berchen ar y tir y mae eich taith arfaethedig yn mynd trwyddo? Os nad ydych chi’n gwybod, efallai y bydd Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol yn gallu eich helpu. Cofiwch gael y tirfeddianwyr i gydweithredu yn fuan.