Gall sicrhau cefnogaeth perchnogion tir yn gynnar fod â buddion cudd drwy ddenu cyllid ychwanegol gan gynlluniau gwella amaeth-amgylchedd fel Tir Gofal.
Gwiriwch â chymunedau cyfagos nad ydynt hwythau yn ystyried prosiect tebyg. Efallai y bydd hi’n bosib rhannu adnoddau a chynhyrchu taith ar y cyd – ac mae yna gyfleoedd marchnata ar y cyd i elwa pawb. Mae’n syniad llawer gwell i gydweithio na chynhyrchu teithiau cerdded a fydd yn cystadlu â’i gilydd.
Bydd ymgynghori â phob aelod o’r gymuned leol yn sicrhau bod pawb yn cael y newyddion diweddaraf a bod ganddyn nhw ran yn y prosiect. Bydd ymgynghoriad cymunedol hefyd yn dod ag unrhyw wrthwynebiadau i’r amlwg, ac yn fwy cadarnhaol, syniadau a chynigion o gymorth. Cynhaliwch gyfarfod cychwynnol a gwahodd pawb i gyfrannu. Os yw’n bosib, arddangoswch fwrdd neu flwch awgrymiadau mewn lle cyhoeddus am amser byr.