A yw’n gweithio?

Yn gynnar wrth ddatblygu eich prosiect dehongli, mae’n werth ystyried sut rydych chi am fonitro cynnydd a sut rydych chi’n gwybod ei fod yn cyflawni beth y dylai fod yn cyflawni – mewn geiriau eraill, os yw’n gweithio ai pheidio. Mae monitro a gwerthuso hefyd yn bwysig oherwydd eu bod yn dangos i chi sut y gallwch chi wella eich dehongli. Mae gwerthuso eich prosiect deongliadol yn rhoi data hanfodol i chi er mwyn rhoi adborth i gyllidwyr presennol a’i gwneud hi’n haws i ddenu cyllidwyr newydd, gan y byddwch o bosib yn gallu dangos bod angen newid neu addasu.

Mae modd monitro mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Y dull hawsaf yw cyfri’r defnyddwyr neu’r nifer o ddeunyddiau sy’n cael eu dosbarthu. Gallwch hefyd arsylwi ar bobl gan ddefnyddio eich dehongliad a chyfweld rhai ohonynt i gael gwybod beth maen nhw’n ei hoffi a beth nad ydyn nhw’n ei hoffi, a beth maen nhw’n ei gofio. Gallwch hefyd wneud arolygon ar ddefnyddwyr neu drefnu grwpiau ffocws i gael adborth gan ddetholiad o bobl sydd wedi profi eich dehongliad. Bydd y math hwn o adborth, ynghyd â chyfres o gyfweliadau personol, yn eich helpu i werthuso eich dehongliad. Gallwch hefyd ddefnyddio gwefannau a ffonau symudol i gael adborth gan ymwelwyr.

Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud y rhain i gyd yn Adran F.