Pam ydych chi’n ei wneud – a phwy ddylai fod yn rhan ohono?

Eich tîm – pwy ddylai fod yn rhan ohono a pha sgiliau ydych chi eu hangen?

Mae’r rhan fwyaf o brosiectau yn gweithio orau â thîm o bobl awyddus yn dod a’u diddordebau a’u sgiliau i rannu’r dasg. Yn ddelfrydol byddech chi’n cynnwys croestoriad o bobl yn eich prosiect dehongli, gan gynnwys y gymuned leol a chynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gweithio yn yr ardal. Gallwch gynnwys:

  • Pobl sy’n cynrychioli diddordebau megis y Cyngor Cymunedol, y capeli, yr eglwysi a’r ysgolion
  • Pobl sydd â gwybodaeth fanwl o’r ardal, ei fywyd gwyllt a’i hanes. Gall hyn gynnwys ffermwyr, coedwigwyr a pherchenogion eraill
  • Pobl sy’n rhyngweithio ag ymwelwyr megis perchenogion siopau, tafarndai, lletyau gwely a brecwast, gwestai ac eraill
  • Pobl ag arbenigedd arbennig megis ysgrifennu, ymchwilio, celfyddydau perfformio neu arbenigedd dylunio

Pa bynnag fath o brosiect dehongli rydych chi’n ystyried cyflawni, byddwch angen pobl bydd o gymorth yn cynllunio ac ymchwilio ynghyd â chynyrchu eich dehongliad. Yn aml mae yna amrywiaeth rhyfeddol o sgiliau ynghudd yn eich cymuned felly mae’n gallu bod yn werthfawr i holi o gwmpas i weld pwy all fod o gymorth. Rhai o’r ffyrdd i wneud hyn yw:

  • siarad â chymaint o bobl a phosibl
  • gofyn am gymorth gan y cyfryngau lleol
  • gofyn i grwpiau ac ysgolion lleol
  • cynnal digwyddiad neu gasgliad cyhoeddus i ddweud wrth bobl beth rydych chi am ei wneud ac i ofyn am eu cymorth

Efallai y bydd yna artistiaid, darlunwyr, perfformwyr, ysgrifennwyr, ffotograffwyr, haneswyr, rhai sydd ag awch am fywyd gwyllt, seiri ac adeiladwyr yno – a bob un am gynnig eu cymorth! Gall Swyddog Dehongli Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd roi cyngor i chi ynghylch eich prosiect. Mae’n werth ystyried agweddau sylfaenol y broses cynllunio sy’n cael eu hamlinellu yn Adran D y teclyn hwn cyn dechrau arni, er mwyn i chi gael trosolwg da o’r camau a gwybod ar ba adrannau yr hoffech chi fwy o gymorth a chyngor. Mae yna restr wirio cyn-cysylltu i’ch helpu yn Atodiad 1.

Cael cymorth proffesiynol

Efallai y penderfynwch yn ychwanegol i’r gwaith gall eich grŵp ei wneud, rydych chi hefyd angen cyngor proffesiynol ar eich dehongli – i olygu eich testun, i ddylunio eich panel, taflen neu wefan neu i recordio eich deunydd sain. Fel cymdeithas rydym yn cael ein peledu â chyfryngau proffesiynol fel cylchgronau, papurau newydd, teledu a’r we – ac mae’n rhaid i’ch dehongliad gystadlu â’r cynhyrchion hyn. Os nad yw eich dehongliad wedi’i ddylunio a’i gynhyrchu yn dda, gall edrych yn annymunol ac yn amhroffesiynol. Mae yna sawl cwmni sydd yn arbenigo mewn dehongli ar gyfer safleoedd cefn gwlad a threftadaeth, a gall eu gwybodaeth a’u profiad fod yn amhrisiadwy. Byddan nhw’n gallu eich helpu i gael gafael ar y cynnyrch a’r deunyddiau gorau i’w defnyddio er mwyn lledaenu eich neges. Mae gan Dehongli Cymru Gyfeirlyfr Cyflenwyr ar eu gwefan; www.dehonglicymru.co.uk ac www.interpretwales.co.uk

Gall bartneriaethau ddod â llwyddiant ar y cyd

Mae prosiectau dehongli hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i weithio gyda sefydliadau lleol eraill – gallwch rannu’r gwaith a’r costau wrth i’r ddau ohonoch lwyddo! Gallwch gynnwys y Cyngor Cymunedol lleol, grwpiau adfywio a fforymau mynediad lleol. Ar gyfer digwyddiad neu lwybr gallwch weithio gyda phrosiectau cymuned eraill yn eich ardal neu efallai y bydd yna gymunedau cyfagos a fyddai’n hoffi cymryd rhan. Cofiwch hefyd y bydd rhaid marchnata eich dehongliad, felly ceisiwch ddod o hyd i berson neu sefydliad y gallwch weithio gyda nhw i farchnata eich safle. Gan ddibynnu ar y math o ddehongli rydych chi’n penderfynu arno, gallwch hefyd gynnwys gwybodaeth am wasanaethau a busnesau lleol. Os ydych chi wedi penderfynu cynnal digwyddiad neu ysgrifennu taflen, gallwch hybu gwasanaethau bws, tafarndai, caffés a lletyau gwely a brecwast. Ond cofiwch i gadw gwybodaeth am fusnesau yn gyffredinol oherwydd gall enwau newid a pherchenogion adael yr ardal. Cymerwch olwg ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am fwy o wybodaeth www.breconbeacons.org

Mae partneriaid potensial yn cynnwys:

  • Grwpiau Hanes Lleol
  • Grwpiau Hanes Naturiol Lleol
  • Ymddiriedolaethau Natur ac unrhyw grwpiau WATCH i bobl ifanc
  • Ysgolion
  • Grwpiau Dysgu Oedolion megis Prifysgol y Drydedd Oes
  • Plwyfi cyfagos
  • Cynghorau Cymunedol
  • Sefydliadau’r Merched
  • Clybiau Ffermwyr Ifanc
  • Busnesau lleol
  • Grwpiau Ieuenctid