Sut ydych chi am wneud eich dehongliad?

Pa fath o gyfrwng deongliadol ydych chi am ei ddefnyddio?

Mae hwn yn gwestiwn pwysig, ac i ddweud y gwir does dim modd ei ateb nes i chi gael ateb i’r holl gwestiynau cynt! Bydd angen i chi fod yn siŵr pam eich bod yn gwneud eich dehongliad, ar gyfer pwy, a beth rydych chi’n bwriadu ei ddweud wrthyn nhw cyn i chi allu gwneud y dewis gorau ynghylch pa fath o ddehongliad a fyddai orau i chi. Pa gyfrwng bynnag rydych chi’n ei ddewis, cofiwch fod rhaid i bob dehongliad fod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael triniaeth hafal, er mwyn cydymffurfio â Deddf yr Iaith Gymraeg a pholisïau sawl corff ariannu. Mae gan hyn oblygiadau amlwg ar gyfer testun a sgript – bydd gennych chi lai o le – felly bydd yn rhaid i chi olygu, golygu ac yna golygu eto!

Mae yna bedwar prif gategori o gyfryngau deongliadol: personol neu wyneb-i-wyneb, ar y safle, ar bapur a graffig, ac electronig. I lawer o bobl, mae eu syniadau cyntaf am gyfryngau deongliadol yn canolbwyntio ar daflenni neu baneli, ond mae’n syniad da i archwilio opsiynau eraill fel dehongli personol â thaith gerdded neu ddigwyddiad tywysedig, neu ddehongli electronig ar wefan neu hysbyseb sain, lle gallwch wneud eich gwybodaeth yn fwy hygyrch ac amlhaenog i gynulleidfa ehangach. Mae yna lawer o daflenni a phaneli o gwmpas ac efallai y bydd eisiau gwneud rhywbeth gwahanol arnoch, i wneud eich cynnyrch yn fwy amlwg a diddorol.