Manteision ac anfanteision dehongliad print a dehongliad graffig

Manteision dehongli print a dehongli graffig

Pob math o ddehongli print a graffig:

  • nid yw’n tynnu gormod o sylw mewn ardal
  • mae’n cael effaith gychwynnol dda
  • mae’n annog pobl i ddefnyddio amrywiol synhwyrau
  • mae’n gallu bod yn greadigol
  • mae pobl yn gallu eu defnyddio ar eu liwt eu hunain ac yn eu hamser eu hunain
  • mae modd defnyddio rhai mewn tywydd gwael

 

Taflenni, cyhoeddiadau a chanllawiau ar gyfer llwybrau:

  • gallu cael eu defnyddio ar y safle ac oddi ar y safle
  • gallu cynhyrchu refeniw
  • gallu bod yn rhad i’w cynhyrchu fesul uned
  • maent yn werthfawr fel cofrodd – gallu mynd ag ef adref
  • gallu addasu’r iaith i weddu i’r gynulleidfa
  • gallu eu symud o le i le ac maent yn ffitio yn eich poced
  • ddim yn amharu ar y dirwedd
  • gallu rhoi sylw i sefydliadau partner megis siopau, tafarndai, gwely a brecwast, a safleoedd dosbarthu nwyddau
  • gallu cynnwys mwy o wybodaeth na phanel
  • gallu helpu gyda chyfeiriadu a llywio

 

Paneli awyr agored:

  • ar gael 24/7
  • canolbwyntio ar nodweddion arbennig
  • gallu cyrraedd cynulleidfa fawr
  • hawdd i’w defnyddio
  • does dim angen goruchwyliaeth
  • gallu helpu ymwelwyr i ddarganfod y ffordd
  • hawdd i’w cynnal a’u cadw

 

Paneli dan do:

  • mae paneli dan do/arddangosfeydd yn gallu bod yn ddiogel
  • yn haws i’w gwneud yn rhyngweithiol na phaneli awyr agored

 

Anfanteision dehongli print a dehongli graffig

Pob math o ddehongli print a graffig: 

  • mae angen eu dylunio a’u hysgrifennu’n dda
  • efallai bydd angen gwario cryn dipyn ar y dechrau
  • gallu cael eu hanwybyddu a neb yn eu darllen
  • ddim yn hyblyg ac yn dyddio’n sydyn ar ôl eu cynhyrchu

 

Taflenni, cyhoeddiadau a chanllawiau ar gyfer llwybrau:

  • rhaid eu dosbarthu’n effeithiol
  • casglu refeniw yn gallu bod yn anodd, gyda llawer o fasnachwyr bach

gallu achosi sbwriel

  • gorfod cystadlu â nifer o gyhoeddiadau eraill am sylw
  • angen ailargraffu yn rheolaidd o bosib

 

Paneli awyr agored:

  • efallai bod angen caniatâd cynllunio arnoch
  • drud i’w cynhyrchu a’u gosod
  • angen eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd
  • agored i ddifrod gan y tywydd, fandaliaeth ac anifeiliaid
  • gallu amharu ar y dirwedd
  • gallu achosi erydiad o amgylch yr arwydd
  • ddim yn hyblyg
  • llonydd
  • cael eu defnyddio’n helaeth ac efallai’n cael eu hanwybyddu o achos hynny

 

Paneli dan do:

  • angen gofod/adeilad arnoch
  • dim ond ar gael pan mae’r adeilad ar agor
  • methu eu symud
  • os ydynt yn dechnolegol, maent yn dueddol o dorri