Dehongliad Personol ydy pan fo ymwelwyr yn rhyngweithio gyda rhywun wyneb yn wyneb yn ystod taith gerdded tywysedig, drwy berfformiad byw, cyflwyniad gan artistiaid ac actorion, mewn gweithgareddau, neu gydag arweinwyr gweithdai. Mae yna lawer o ymchwil sy’n dangos mai dehongliad personol yw’r dehongliad mwyaf effeithiol a chofiadwy, ond gall fod yn ddrud i’w ddarparu ac mae’n aml yn brofiad ‘unigryw’, gyda niferoedd bychain ar y cyfan. Mae’r dehongliadau personol gorau yn cynnwys perfformiwr profiadol sy’n hyddysg yn ei bwnc ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf.
Mae dehongliad graffig neu ar bapur yn cynnwys taflenni, cyhoeddiadau, canllawiau llwybrau, paneli tu fewn a thu allan, ac arddangosiadau. Dyma sy’n dod i feddwl y rhan fwyaf o bobl wrth iddyn nhw ystyried dehongliad am y tro cyntaf. Fel arfer mae’n cynnwys cymysgedd o destun ysgrifenedig a deunyddiau gweledol fel lluniau, mapiau a ffotograffau. Mae’n gallu bod yn gosteffeithiol a gall gyrraedd llawer o bobl. Mae’r dehongliadau graffig neu ar bapur gorau yn cynnwys cynllun trawiadol a thestun cryno a chyffrous.
Mae dehongli ar y safle yn cynnwys darnau 2D a 3D fel eisteddleoedd, cerflunwaith a chyfeirbwyntiau wedi’u dylunio’n arbennig. Mae’r rhan fwyaf o’r dehongliadau hyn yn ddarnau unigryw neu fychan wedi’u cynhyrchu a’u dylunio’n arbennig ar gyfer safleoedd penodol. Yn greadigol ac yn gyffrous, maen nhw fel arfer yn defnyddio deunyddiau lleol ac yn cael eu creu gan grefftwyr. Maen nhw’n gallu bod yn llwyddiannus iawn ond weithiau maen nhw’n ddrud i’w cynhyrchu.
Mae dehongliad electronig yn cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau cyfrifiadurol a sain gan gynnwys gwefannau, canllawiau sain, podlediadau, sgriniau rhyngweithiol a CDRoms. Mae’n faes dehongli sy’n datblygu’n gyflym – gellir defnyddio offer parhaol fel pyst sain, neu dechnoleg gyfrifiadurol symudol fel ffonau symudol, chwaraewyr MP3 ac offer sain eraill fel ffyn sain a chwaraewyr CD. Mae llawer o waith ymchwil yn mynd rhagddo gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ystyried ei botensial o ran defnydd ac effeithiolrwydd.
Ar y cyfan mae’n syniad da i ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau dehongli, oherwydd mae’r dull hwn yn golygu y gallwch chi gynnig gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae rhai pobl yn hoff iawn o ddehongliad personol, ond mae rhai yn ei weld yn fusneslyd neu’n fygythiol. Mae rhai yn hoffi taflenni, ond bydd rhai yn eu gweld yn anodd neu’n ddiflas i’w darllen. Os ydych chi’n cynnig amrywiaeth o wahanol gyfryngau, er enghraifft taith gerdded dywysedig byr a thaflen hunan-dywys, mae gennych chi well gobaith o gyfathrebu’n effeithiol â mwy o bobl. Hefyd maen nhw’n gallu cyd-fynd â’i gilydd yn dda.