Manteision ac anfanteision Dehongli Electronig

Gwefannau, teithiau sain, podlediadau, sgriniau rhyngweithiol, CD Roms

Manteision

  • apelio at gynulleidfa eang, yn enwedig pobl ifanc
  • ddim yn amharu ar y dirwedd
  • cyfleoedd i ddefnyddio dyluniadau, sain a/neu ddelweddau yn greadigol ac yn gyffrous
  • gallu bod ar sawl haen
  • cyfleoedd i greu cymeriad yn greadigol
  • gallu bod mewn sawl iaith
  • gallu eu defnyddio i adrodd stori
  • gellir llwytho deunydd i lawr o’r we i’w ddefnyddio yng nghartrefi pobl neu ar eu dyfeisiau personol
  • gellir diweddaru’r wybodaeth yn rhwydd
  • gallu bod yn arloesol ac yn rhyngweithiol

Anfanteision

  • costau cychwynnol yn eithaf drud
  • dydy rhai pobl ddim yn hyderus wrth ddefnyddio TGCh
  • rhaid i ddefnyddwyr gael cyfarpar arbenigol – cyfrifiadur, ffôn symudol, offer sain, MP3 ac ati
  • materion diogelwch posib o’u defnyddio
  • gallu dieithrio pobl wrth ei gilydd ac wrth nodweddion y safle
  • ystyriaethau gweithredol pwysig megis, llogi, storio a gwefru’r cyfarpar
  • mae technoleg yn datblygu’n gyflym felly gall fynd yn hen-ffasiwn dros nos
  • gall yr offer dorri/datblygu nam yn rhwydd
  • pobl yn gallu eu difrodi neu eu dwyn
  • gallu bod yn ddrud i’w cynnal
  • angen eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd e.e. gwefru batris dyfeisiau symudol