Gall grŵp o bobl â’r un diddordeb gynnal prosiect, ond mae’n fanteisiol os oes gan eich grŵp gyfansoddiad ffurfiol gan fod rhai sefydliadau cyllido yn cynnig grantiau i grwpiau sefydledig yn unig. Os felly, bydd angen i chi lunio cyfansoddiad a chofrestru’r grŵp. Cyfansoddiad yw fframwaith ysgrifenedig o reolau sy’n nodi eich amcanion ac yn rhoi sylfaen ar gyfer arferion da. I weld cyfansoddiad enghreifftiol, cysylltwch â’r Comisiwn Elusennau: www.charity-commission.gov.uk.
Gall Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gynnig cyngor ar sut i ddod yn grŵp â chyfansoddiad. Cysylltwch â Swyddog Datblygu Cymunedol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Pa fath o ymgynghoriad sydd ei angen arnoch?
Mae’n well i gynnwys yr unigolion allweddol a sefydliadau perthnasol yn gynnar iawn yn y broses gynllunio fel eich bod yn osgoi problemau a all beri oedi yn nes ymlaen. Un o’r pethau cyntaf i’w gwneud yw dod i wybod pwy sy’n berchen ar unrhyw safle neu nodwedd a all fod yn rhan o’ch prosiect a chael eu caniatâd nhw i’w ddehongli. Mae’n bosib y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn. Yn dibynnu ar y math o ddehongliad rydych chi am ei ddatblygu, efallai y bydd rhaid i chi gael caniatâd cynllunio i osod rhai pethau, megis paneli tu allan. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan www.bannaubrycheiniog.org. Os ydych chi’n bwriadu gosod arwyddion neu baneli tu allan ar y safle, bydd angen caniatâd perchennog y tir arnoch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i hyn a chael cytundebau, ar bapur, am gyfrifoldeb Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer pob gosodiad ffisegol.
Bydd ymgynghori â holl aelodau y gymuned leol yn sicrhau bod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect a bod ganddyn nhw ddiddordeb yn ei ganlyniad. Bydd ymgynghoriad cymunedol hefyd yn amlygu unrhyw wrthwynebiadau ac, yn fwy cadarnhaol, syniadau a chynigion o gymorth. Beth am gael cyfarfod cychwynnol a gwahodd pawb yno i gyfrannu? Anfonwch lythyr drwy’r ysgol a grwpiau lleol eraill a rhowch fwrdd neu flwch awgrymiadau mewn man cyhoeddus am gyfnod byr o amser.