Beth yw eich straeon?
Mae llawer o bobl leol yn cymryd y pethau maen nhw’n ei weld yn ddyddiol a straeon eu plentyndod yn ganiataol. Ond i breswylwyr newydd, ac i ymwelwyr, cyfrinachau yn aros i gael eu datgelu ydyn nhw. Gallwch adrodd hanes pethau bychain – hen wal gerrig, neu hanes brith y dafarn leol. Gallwch edrych ar bethau mwy fel eich eglwys a’r bobl sydd wedi’u claddu yn y fynwent. Neu gallwch lunio llwybr deongledig o gwmpas y pentref neu ardal gyfagos, ac adrodd stori ei ddatblygiad dros y canrifoedd a’r bobl oedd yn rhan ohono.
Mae’n siŵr fod yna straeon maith i adrodd am eich ardal – mae’n rhaid i chi benderfynu pa rai yw’r gorau. Ond gwnewch yn siŵr bod pobl eraill yn gweld y straeon yn ddiddorol ac yn arwyddocaol hefyd! A gwnewch yn siŵr bod pobl yn gallu ymweld â’r llefydd neu bethau rydych chi am eu dehongli – mae cael caniatâd y perchennog yn hollbwysig. Byddwch hefyd angen gwybod os oes rhywbeth tebyg arall wedi’i ddehongli yn eich ardal yn barod ac os oes yna brosiectau eraill ar gyfer yr ardal ar y gweill. Mae’n syniad da i chi weld os gallwch chi wneud cysylltiadau â safleoedd eraill ac i wasanaethau fel toiledau, siopau, tafarndai, ystafelloedd te, llety a thrafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â pharcio. Hefyd mae angen i chi wirio pa adnoddau sydd ar gael – mae hynny’n cynnwys safleoedd eraill, gwasanaethau fel siopau a pharcio ynghyd â staff, gwirfoddolwyr ac arian.