Mae’r rhan fwyaf o ddehongli wedi’i seilio ar brif thema neu themâu sy’n cyfathrebu’r syniad allweddol rydych chi am i bobl ddeall a chofio am eich safle neu nodwedd fel canlyniad o’ch dehongliad. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog â phedair prif thema sy’n archwilio tirwedd unigryw’r Parc Cenedlaethol, ei hanes dynol, ei dreftadaeth ddiwylliannol a’i gynefinoedd amrywiol. www.breconbeacons.org. Mae’n debyg y bydd eich thema chi yn cysylltu ag un o feysydd pynciau eang prif themâu Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Mae themâu yn ddefnyddiol oherwydd maen nhw’n galluogi chi i drefnu a golygu eich gwybodaeth a helpu chi i ystyried beth rydych chi wir am i’ch ymwelwyr i ddeall, yn lle eu hanfon i ffwrdd â swp o ffeithiau anghysylltiedig. Unwaith rydych chi wedi penderfynu bod gennych chi rywbeth neu bethau sy’n arbennig ac yn werth eu dehongli, mae angen i chi benderfynu ar eich themâu. Y themâu yw’r syniadau a’r cysyniadau rydych chi am i bobl eu deall ar ôl iddyn nhw brofi eich dehongliad. Os yw pobl yn deall un peth yn unig o’u hymweliad i’ch safle neu wrthrych, beth ydych chi am i hwnnw fod? Dyna eich thema.
Yn gyffredinol, dylai’r themâu fod yn gryno ac yn fachog, yn un frawddeg sy’n cynnwys un syniad clir sy’n amlygu beth mae’r dehongliad yn ei gynnwys ac wedi’i gyflwyno mewn ffordd ddiddorol a chyffrous. Mae cael thema fel arfer yn gwneud eich dehongliad yn fwy pleserus hefyd – gan fod yr holl wybodaeth wedi’i gysylltu i’r thema.
Mae’r Cynhyrchydd Thema yn declyn syml sydd wedi’i ddatblygu gan Sam Ham, dehonglyddd Americanaidd a’i addasu gan James Carter ar gyfer Scottish Interpretation Network.
I greu eich thema dim ond gorffen y brawddegau canlynol sydd yn rhaid i chi wneud:
1. Yn gyffredinol rydyn ni’n meddwl bod ein prosiect dehongli yn sôn am……
2. Yn benodol rydyn ni am ddweud wrth bobl am…….
3. Ar ôl ymweld â’n prosiect dehongli, yr un peth rydyn ni wir am i’n cynulleidfa ddeall ydy………
Ac ar ôl i chi roi’r ateb i Gwestiwn 3 mewn i frawddeg fer, bydd eich thema wedi cael ei greu!
Cofiwch fod y rhan fwyaf o bobl yn hoffi clywed straeon am ‘bobl ddiddorol’. Felly os gallwch chi, cysylltwch eich dehongliad i gymeriad, ond mae’n rhaid i hwnnw fod yn berthnasol ac yn ddiddorol. Gallwch hefyd ddatblygu is-themâu i gefnogi ac ehangu ar eich prif thema. Er enghraifft, un o brif themâu Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw:
- Yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, mae Bannau Brycheiniog yn dirwedd weithredol byw lle mae gweithgaredd dynol yn llunio’r tir.
Mae pump is-thema yn ehangu ar y brif thema. Dyma enghraifft o un o’r rhain:
- Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn llawn adnoddau naturiol ac mae echdyniad y deunyddiau crai hyn wedi ail-lunio’r dirwedd y gwelwn ni heddiw.
Mae GeoParc Fforest Fawr yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Hwn yw’r Geoparc cyntaf yng Nghymru ac mae’n amddiffyn peth o ddaeareg unigryw gorllewin Bannau Brycheiniog. Ei brif thema yw: Wedi’i greu gan rymoedd nerthol natur ac yna gan ddynion, gall GeoParc Fforest Fawr ysbrydoli, cefnogi a’n dysgu ni am ein byd.
Mae Taith Gerdded Glan yr Afon Aberhonddu, prosiect dehongli lleol, yn rhoi engraifft arall o brif thema i ni:
Mae’r dŵr glân, y gorchudd llystyfiant a’r amrywiaeth o gynefinoedd yn gwneud yr Afon Wysg yn gartref delfrydol i amrywiaeth o fywyd gwyllt prin ac o dan fygythiad.