Teithiau cerdded tywys, digwyddiadau a gweithgareddau, dweud stori, dehonglwyr mewn gwisg, theatr stryd a pherfformiadau eraill
Manteision
- effeithiol iawn – ymchwil yn dangos hynny
- dehongliad personol yw’r math mwyaf effeithiol o ddehongliad
- hyblyg iawn – gan ei fod yn cael ei ddylunio’n arbennig ar gyfer eich safle
- cynhwysol – gallu denu cynulleidfa eang gyda phobl o bob oedran ac o wahanol grwpiau cymdeithasol
- gallu dweud stori gymhleth yn dda
- gallu bod yn greadigol
- gallu ymateb i wahanol gynulleidfaoedd a’u hanghenion ar y diwrnod
- gallu cynhyrchu incwm
- gallu denu cyhoeddusrwydd da
- profiad cymdeithasol
- gallu bod yn hwyl ac yn gyffrous
- gallu cynnwys nifer o sgiliau gan wahanol grwpiau partner fel cyd-drefnwyr
- gallu parhau am fwy o amser drwy ddefnyddio gwefannau, lluniau, fideo, adroddiadau, arddangosfeydd ar ôl y digwyddiad a sylw yn y wasg
Anfanteision
- mae digwyddiadau awyr agored yn dibynnu ar y tywydd
- dim ond cynulleidfa fechan mae rhai digwyddiadau’n ei denu
- trwm o ran gwaith gweinyddol
- angen cael ei farchnata’n dda
- angen cynllunio o flaen llaw yn dda
- gofyn am wariant ariannol cychwynnol
- angen ystod o sgiliau creu a marchnata
- gall maint y gynulleidfa fod yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau
- gall gael ei ddominyddu gan unigolyn
- gall fod yn ddigwyddiad un tro
- os caiff ei ailadrodd, mae angen ei asesu a’i ddatblygu