Adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Dros flwyddyn heriol arall eto, mae cymunedau ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi parhau i greu argraff arnom a’n hysbrydoli gyda’u creadigrwydd a’u gwytnwch. Er gwaethaf popeth, mae pobl a grwpiau lleol – gwirfoddolwyr yn bennaf – wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu a diogelu
neuaddau a gwasanaethau cymunedol, maent wedi cynnal rhaglenni iechyd a lles,
wedi hyrwyddo treftadaeth leol ac wedi mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a
newid yn yr hinsawdd. Gyda chymorth y Gronfa Datblygu Gynaliadwy, maent wedi dwyn ymlaen a chyflawni ystod eang o brosiectau sydd gyda’i gilydd yn gwneud cyfraniad enfawr at ansawdd ein bywydau o ddydd i ddydd – gallwch ddarllen mwy amdanynt yn yr adroddiad hwn. Mae wedi bod yn fraint gweld yr holl greadigrwydd a’r ymrwymiad hwn ac mae wedi gwneud fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cronfa Datblygu Gynaliadwy yn bleserus ac yn werth chweil. Fy niolch ac edmygedd i chi i gyd.

Ni allai’r Gronfa weithredu heb gefnogaeth benodol ei Swyddogion. Rydym yn hynod ddiolchgar i Helen Roderick a Ceri Bevan, sydd wedi gweithio’n agos gydag ymgeiswyr i gynnig pob cymorth a allant a chyfeirio at arbenigwyr ac arweiniad eraill pan fo angen. Roeddem yn drist iawn i ffarwelio â Ceri eleni, a
adawodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth – roedd yn uchel ei pharch ymhlith ei chydweithwyr a’i chymunedau, a dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd.

Roeddem wrth ein bodd serch hynny i groesawu dau Swyddog newydd i’r Tîm Cymunedau Cynaliadwy – Barbara Anglezarke, Swyddog Cronfa Datblygu Gynaliadwy a Ben Geeson-Brown, Swyddog Cymunedau Cynaliadwy ac olynydd Ceri. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw dros y flwyddyn i ddod. Mae diolch diffuant hefyd i’m cyd-aelodau’r Pwyllgor, y mae eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad wedi parhau, er mai dim ond yn rhithiol y gallant weld a gweithio gyda’i gilydd. Mae eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn amhrisiadwy.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen am y prosiectau a gefnogir gan y Gronfa – os cewch eich ysbrydoli ganddynt a bod gennych syniadau eich hun, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – cysylltwch â Swyddogion y Gronfa.

Y Cynghorydd Michael J Jones
Cadeirydd Cronfa Datblygu Cynaliadwy

 

Adroddiad Blynyddol y Gronfa Datblygu Cynaliadwy 2022/2023