Sut i Wneud Cais?

Os oes gennych syniad am brosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cysylltu am sgwrs anffurfiol yn gyntaf – byddwn wrth ein bodd cael clywed oddi wrthych. Gallwn gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfer datblygu – a ffurflen gais!  

Dyddiadau Cyflwyno ac Asesu 2023

Cyflwyno erbyn 5pm ar:

Mae’r Panel Asesu’n Cyfarfod

25.10.23                     

2024

03.01.24                                 

03.04.24                                 

05.06.24                                 

04.09.24                                 

31.10.24                                 

2025

02.01.25                                 

09.04.25                                       

15.11.23

2024

24.01.24

24.04.24

26.06.24

25.09.24

20.11.24

2025

22.01.25

30.04.25

Cam 1: Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol yn y lle cyntaf. Byddwn yn trafod eich cynllun ac yn rhannu dolen i’r ffurflen gais os ydy’r prosiect yn bodloni’r meini prawf. Rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.

Cam 2: Bydd ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno erbyn y terfyn amser yn cael eu cyflwyno gan Swyddogion y Gronfa i Banel Asesu nesaf y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.  Mae aelodaeth y panel yn cynnwys:

  1. trawstoriad eang o unigolion gyda sgiliau ac arbenigedd. Maen nhw’n cynghori….
  2. Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol, sy’n penderfynu’n derfynol ar geisiadau

Cam 3: Cysylltir â’r holl ymgeiswyr ynglŷn â’r canlyniad o fewn un mis o derfyn amser y cais 

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi gadw mewn cysylltiad rheolaidd â ni gyda’r newyddion diweddaraf ar gynnydd a hefyd adroddiadau diwedd prosiect.