Cronfa Effeithlonrwydd Ynni 2021 – 22

Rhaglen newydd gyffrous ar gyfer 2021 – 22. Mae grantiau ar gael o hyd at £5,000 (am hyd at 50% o gyfanswm y costau) i osod mesurau arbed ynni neu ynni adnewyddol yn eich adnoddau cymunedol.

Fe wyddom mai hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf difrifol yr ydym yn eu hwynebu, ac y dylem wneud popeth yn ein gallu i leihau allyriadau carbon o’r defnydd o danwydd ffosil. Hyd yn oed ar y lefel fwyaf lleol mae pob un ohonom yn gallu cymryd camau i leihau ein defnydd o ynni.

Yn aml, mae mesurau cymharol syml yn gallu lleihau’r defnydd o ynni – deunydd rhag drafftiau ac uwchraddio ffenestri a drysau, falfiau thermostatig ar radyrydyddion, insiwleiddio, goleuadau LED ayb – a byddwch yn arbed arian ar eich biliau hefyd.

Cofiwch gysylltu â ni os hoffech ymgeisio – mae’r broses a’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno cais yr un fath â’r rhai ar gyfer y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.