Cronfa Gymunedol Adfer Natur

Os oes gennych chi syniad am brosiect i helpu natur i adfer, fe fyddwn ni wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych ac efallai y byddwn ni’n gallu cynnig arian i’w symud ymlaen.

Diolch i’r Bartneriaeth Natur Lleol gallwn gynnig 100% o’r arian angenrheidiol – unrhyw beth o £50 hyd at £500.  Byddwn angen gwybod sut y bydd yn helpu natur i adfer neu’n helpu’r bobl yn eich cymuned gysylltu â natur, ac yn ddelfrydol, bydd gennych wirfoddolwyr.  Er mwyn hogi’ch meddwl, gallwn dalu’r costau o, er enghraifft, osod bocsys nythu, plannu coed, creu pyllau, adfer gwrychoedd.

Rydym wedi ariannu amrywiaeth o brosiectau mewn cymunedau ar draws y Parc o ddarparu cartref i ddraenogod ar gyfer Grŵp y Sgowtiaid i blannu blodau gwyllt i helpu peillwyr.   Byddwn bob amser yn falch o glywed eich syniadau sut yr hoffech gysylltu â natur – os byddwch eisiau trafod unrhyw beth neu os oes gennych gwestiynau am gynaliadwyedd prosiect, ysgrifennwch atom ar naturerecovery@beacons-npa.gov.uk ac fe fyddwn yn eich ffonio i’w drafod.