Beth all y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ei Ariannu?

Gall grantiau’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy gefnogi:

  • Prosiectau – costau tuag at ddeunyddiau, offer llaw, argraffu, costau contractwyr.
  • Rheoli Prosiectau – i gefnogi costau staff dros gyfnod o flwyddyn neu fwy.
  • Datblygu Prosiectau – er enghraifft: gweithgarwch neu bartneriaethau newydd, hyfforddiant, astudiaethau cyn prosiect.

Gall y grantiau ariannu hyd at 50% o gostau prosiectau cymwys. Mae hyn yn golygu bod rhaid i 50% o’r costau ddod o rywle arall, ond gallwch gyfrif amser gwirfoddol a rhoddion fel arian cyfatebol.

Os oes angen cyngor a chefnogaeth arnoch i gynllunio a datblygu eich prosiect, mae Tîm Cymunedol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yma i’ch helpu.

Nodiadau Cyfarwyddyd

Rydym yn datblygu cyfres o Nodiadau Cyfarwyddyd ar ystod o themâu er mwyn cynghori ymgeiswyr a rhoi syniad iddynt o’r hyn sydd ei angen.  Nodiadau Cyfredol:

Meysydd Chwarae Cymunedol

Mannau Addoli

Neuaddau Cymunedol

Cysylltwch â ni i drafod eich prosiect cyn i chi gyflwyno cais. Ffon 07973 781479 neu ebost  sdf@beacons-npa.gov.uk