Amcanion y Gronfa

Mae cynaliadwyedd yn golygu gwneud yn siŵr bod ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw yn sicrhau ansawdd da o fywyd i ni’n awr ac am y cenedlaethau i ddod.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cefnogi prosiectau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n dangos beth yn union yw hynny’n ymarferol – prosiectau sydd yn:

  • Dod â buddion economaidd, amgylcheddol, cymunedol a diwylliannol.
  • Â chefnogaeth a chyfranogaeth cymunedau lleol
  • Gwella gwasanaethau, cyfleoedd a mynediad i bawb
  • Dod â phobl ynghyd mewn partneriaethau i daclo problemau
  • Cynnwys a chefnogi busnesau lleol a’r economi leol
  • Dangos arloesedd ac ymarfer gorau
  • Cynnwys pobl ifanc
  • Annog defnyddio’r Gymraeg
  • Cynnig cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli a datblygu sgiliau

Mae’r cyfan yn helpu i wella dealltwriaeth o gynaliadwyedd ac yn cefnogi newid ymddygiad positif.

Mae’r astudiaethau Achos yn rhoi syniad o’r prosiectau amrywiol rydym wedi’u cefnogi.

Os oes gennych chi syniad am brosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cysylltu am sgwrs anffurfiol gyntaf oll. Rydym ni yma i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfer datblygu a byddwn wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!

Ysgrifennwch atom ar sdf@beacons-npa.gov.uk

Pe byddai’n well gennych siarad gyda ni – ffoniwch ar 01874 624437, a byddwn yn dod yn ôl atoch gynted â bo modd. 

Swyddogion y Gronfa:

Llun, Mawrth, Mercher: Barbara Anglezarke
Iau, Gwener: Helen Roderick

Nodau Llesiant

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cyfrannu at weithredu ymarferol a darparu’r Nodau Llesiant, yn lleol, sydd i’w gweld yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015):

  • Cymru Ffyniannus
  • Cymru Gydnerth
  • Cymru Fwy Cyfartal
  • Cymru Iachach
  • Cymru o Gymunedau Mwy Cydlynol
  • Cymru o Ddiwylliant sy’n Ffynnu a’r Gymraeg sy’n Ffynnu
  • Byd yn Gyfrifol yn Fyd Eang

Cymhwysedd

Beth allai’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ei ariannu?

Rydym yn chwilio am gynigion sy’n:

  • Cysylltu â darparu un neu ragor o amcanion y Gronfa – byddwn yn gofyn i chi egluro sut y bydd eich prosiect yn gwneud hynny.
  • Cysylltu materion  cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd trwy gyfranogaeth gymunedol
  • Bod â chefnogaeth  neu gyfranogiad gwirioneddol cymunedau yn y Parc
  • Trin y Saesneg a’r Gymraeg yn gyfartal

Mae grantiau’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn gallu cyfrannu at gostau:

  • Defnyddiau: e.e. offer, argraffu, costau contractwyr
  • Rheoli Prosiect: e.e. staff, costau arweinydd gweithgareddau
  • Datblygu Prosiect: e.e. partneriaethau dechrau, hyfforddiant, astudiaethau cyn prosiect.

Mae grantiau’n gallu ariannu hyd at 50% o gyfanswm costau cymwys prosiect.  Mae hynny’n golygu bod yn rhaid codi 50% o’r costau o rywle arall, ond gellir cyfrif gwerth amser gwirfoddolwyr a rhoddion mewn nwyddau neu wasanaethau fel arian cyfatebol.

Prosiectau y tu allan i ffiniau’r Parc  – er bod y Gronfa’n canolbwyntio’n bennaf ar gymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol, gallwn gefnogi prosiectau mewn cymunedau’n union y tu allan i ffiniau’r Parc, er mwyn annog cysylltiadau agosach rhwng y cymunedau hynny a’r Parc.

Nid yw’r Gronfa’n gallu cefnogi:

  • prosiectau sy’n gryn bellter y tu allan i ffiniau’r Parc
  • prosiectau sydd wedi’u hariannu o’r blaen heb unrhyw strategaeth ymadael o fewn cyfnod rhesymol
  • gweithgareddau neu brosiectau sy’n eithrio rhai grwpiau o bobl heb reswm clir
  • gweithgareddau sy’n gyfrifoldeb statudol cyrff y sector cyhoeddus
  • gweithgareddau ar gyfer plaid wleidyddol neu grefydd yn unig
  • gwariant / costau o’r gorffennol ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi digwydd
  • TAW y gellir ei adfer