Cronfa Treftadaeth mewn Lleoedd 2021 – 22

Mae’r rhaglen yn cydnabod ansawdd arbennig trefi a phentrefi hanesyddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae grantiau o hyd at £5,000 am hyd at 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gael i helpu unigolion a grwpiau cymunedol gyda gwaith cadw a gwella asedau treftadaeth lleol. Mae amser gwirfoddolwyr a grantiau o ffynonellau eraill yn cyfrif fel arian cyfatebol.

Mae gwaith cymwys yn cynnwys:

  • Adeiladau – paentio wynebau adeiladau, gwaith allanol i doeau, atgyweirio’r rendr ayb.
  • Nodweddion archeolegol – rheoli llystyfiant, atgyweirio difrod, gwaith i wella gwerthoedd aesthetig safleoedd, gwella dealltwriaeth neu godi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ayb.
  • Dehongli –darparu byrddau dehongli sy’n berthnasol i nodweddion hanesyddol anheddau, arwyddion ar gyfer llwybrau cerdded treftadaeth, cyhoeddiadau’n hyrwyddo agweddau treftadol lleoedd.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Mae unigolion a grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio.

Ymgeiswyr Unigol: gellir dyfarnu grantiau i:

  • Perchnogion adeiladau
  • Tenantiaid – rhaid bod o leiaf 10 mlynedd o’r brydles ar ôl ac mae’n rhaid anfon caniatâd ysgrifenedig y perchennog i wneud y gwaith gyda’r cais.

Grwpiau Cymunedol: rhaid bod â chyfansoddiad gyda chyfrif banc gweithredol.  Bydd angen y manylion gyda’r cais.

Cofiwch gysylltu â ni os hoffech ymgeisio – mae’r broses a’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno cais yr un fath â’r rhai ar gyfer y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.