Os oes gennych syniad am brosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cysylltu am sgwrs anffurfiol yn gyntaf – byddwn wrth ein bodd cael clywed oddi wrthych. Gallwn gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfer datblygu – a ffurflen gais!
Dyddiadau Cyflwyno ac Asesu 2023
Cyflwyno erbyn 5pm ar: |
Mae’r Panel Asesu’n Cyfarfod |
25.10.23 2024 03.01.24 03.04.24 05.06.24 04.09.24 31.10.24 2025 02.01.25 09.04.25 |
15.11.23 2024 24.01.24 24.04.24 26.06.24 25.09.24 20.11.24 2025 22.01.25 30.04.25 |
Cam 1: Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol yn y lle cyntaf. Byddwn yn trafod eich cynllun ac yn rhannu dolen i’r ffurflen gais os ydy’r prosiect yn bodloni’r meini prawf. Rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Cam 2: Bydd ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno erbyn y terfyn amser yn cael eu cyflwyno gan Swyddogion y Gronfa i Banel Asesu nesaf y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Mae aelodaeth y panel yn cynnwys:
- trawstoriad eang o unigolion gyda sgiliau ac arbenigedd. Maen nhw’n cynghori….
- Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol, sy’n penderfynu’n derfynol ar geisiadau
Cam 3: Cysylltir â’r holl ymgeiswyr ynglŷn â’r canlyniad o fewn un mis o derfyn amser y cais
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi gadw mewn cysylltiad rheolaidd â ni gyda’r newyddion diweddaraf ar gynnydd a hefyd adroddiadau diwedd prosiect.