Pyllau

Adar sy’n nythu. Mae pob aderyn a’i nyth (heblaw am rywogaethau plâu amlwg) yn cael eu gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Gall cotieir, hwyaid ac ieir dŵr oll nythu ar lannau pyllau, a gall telorion y cyrs, telorion yr hesg a breision y cyrs oll gael eu gweld yn nythu yn y cyrs sy’n tyfu o byllau ac ar hyd ymylon pyllau.  Gallai rhywogaethau prinnach nythu yno hefyd.

Mae Madfallod Dŵr Cribog wedi’u hamddiffyn gan gyfraith y DU ac Ewrop ac maent yn dibynnu ar byllau i fridio. Y tu hwnt i’r tymor bridio (Chwefror-Awst) maent yn byw ar y tir a gellir dod o hyd iddynt gannoedd o fetrau i ffwrdd o byllau, a gallant hefyd fyw mewn pentyrrau o gerrig, waliau cerrig, pentyrrau o foncyffion a llystyfiant trwchus gerllaw pyllau.

Mae’n rhaid cael caniatâd cynllunio i greu pyllau mawr ac, o bosibl, caniatâd gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae cyflenwi pysgod mewn pyllau at ddibenion pysgota yn niweidiol i fywyd gwyllt. Pan fydd madfallod dŵr cribog yn bresennol, byddai hyn yn drosedd oherwydd bydd y pysgod yn bwyta wyau a larfau ac yn fuan, byddai’r boblogaeth yn diflannu.

Darllenwch ragor am Madfallod Dwr Cribog a chynllunio.