Gweithio gerllaw neu ar lannau neu sianeli afonydd a nentydd

Gall datblygu sy’n effeithio ar lannau neu sianeli afonydd fod yn hynod anodd. Mae perygl annatod o lifogydd yn sgil adeiladu mor agos at afonydd, gan wneud datblygu’n amhriodol. Gall y datblygiad ansefydlogi glannau afonydd naill ai yn ystod neu ar ôl adeiladu. Gall hyn ganiatáu i waddodion fynd i’r afon gan achosi llifogydd a gall newid cyflymder a graddfa llif y dŵr. Mae hyn yn achosi problemau i fywyd gwyllt a gall hefyd arwain at lifogydd ac erydu.

Mae coed yn tyfu ar hyd llawer o lannau ac felly, dylai’r ymgeisydd hefyd ddarllen y wybodaeth diogelu coed.

Mae afonydd yn llunio coridorau naturiol i fywyd gwyllt a gall datblygu greu rhwystrau nad yw bywyd gwyllt yn gallu’u croesi. Mae afonydd yn y Parc Cenedlaethol sydd â choed yn tyfu ar eu hyd yn arbennig o bwysig ar gyfer symudiadau dyfrgwn ac ystlumod.

Ym mhob achos, ymgynghorir ag Asiantaeth yr Amgylchedd ar geisiadau cynllunio. Gall yr Asiantaeth argymell i Awdurdod y Parc Cenedlaethol y dylai’r cais cael ei wrthod neu ei gymeradwyo dim ond gydag amodau penodol os yw’n barnu y bydd effaith andwyol ar ansawdd dŵr, ar y perygl o lifogydd neu ar fywyd gwyllt.  Mae’n bosibl y bydd datblygu o fewn 7m o frig y lan yn gorfod cael Caniatâd Draenio Tir gan Asiantaeth yr Amgylchedd.