Cafodd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig eu dynodi’n wreiddiol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ddynodi’r ardaloedd pwysig hyn. Gall SoDdGA gael eu dynodi ar dir ym mherchenogaeth breifat ynghyd â thir ym mherchenogaeth cyrff cyhoeddus ac elusennau cadwraeth. Caiff SoDdGA eu gwarchod drwy atal gweithrediadau niweidiol, oni bai bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi caniatâd. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am gyflwr pob SoDdGA yng Nghymru. Ewch i’w gwefan yma am ragor o wybodaeth.
Gwnaeth Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 rai diwygiadau pwysig i’r ffordd o warchod SoDdGA.
Gall datblygu tir o gwmpas neu wrth ymyl SoDdGA effeithio ar ansawdd y SoDdGA. Mae hyn yn arbennig o wir o ran draenio mewn cysylltiad ag afonydd neu nentydd sy’n SoDdGA.
Dylid ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn hyd yn oed ystyried datblygu gerllaw neu ar SoDdGA.