Pryd cawsom ein dynodi? Cafodd Bannau Brycheiniog ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol ym 1957.
Beth ydyn ni’n ei wneud? Gallwch weld ein cylch gorchwyl yn ein Dibenion Statudol a’n Dyletswydd Statudol. Dyma grynodeb:
- diogelu prydferthwch naturiol y Parc;
- helpu ymwelwyr i’w fwynhau a’i ddeall; a
- meithrin lles pobl leol.
Sut beth fydd y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol? Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer y Parc Cenedlaethol am yr 20 mlynedd nesaf. Dyma sy’n rhoi’r cyd-destun cyffredinol ar gyfer ein holl ddogfennau strategol.
Pwy sy’n gwneud y gwaith? Caiff y Parc ei weinyddu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae gan yr Awdurdod 18 aelod, dros 100 o staff a byddin o wirfoddolwyr.
Siâp a Ffurf yr Awdurdod – Mae ein hardal weinyddol yn cynnwys rhannau o 9 Awdurdod Unedol gwahanol. Ni yw’r awdurdod cynllunio dros yr ardal, tra bod yr Awdurdodau Unedol yn gyfrifol am yr holl wasanaethau llywodraeth leol eraill yn ardal y parc.
Sut ydyn ni’n gweithio? Cynhelir busnes yr Awdurdod yn unol â nifer o reoliadau a phrotocolau.
Cysylltwch â ni – cyfeiriad ein pencadlys:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HP
Ffôn: 01874 624437
E-bost.