Croeso i’r teulu…
Mae’r Bannau Brycheiniog yn un o deulu o 14 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain. I gael gwybod mwy am aelodau eraill o’r teulu hwn, ewch i Borth y Parciau Cenedlaethol. Yma, gallwch hefyd ddod o hyd i dudalennau Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ‘Ardal o Dirwedd Warchodedig Categori Pump’. Mae hyn yn golygu bod tirwedd ein Parc Cenedlaethol yn ‘ardal warchodedig’ yn ôl yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN). Mae chwe chategori ar gyfer rheoli ardaloedd gwarchodedig. Mae’r categorïau hyn yn cwmpasu’r holl fathau gwahanol o ardaloedd gwarchodedig ar draws y byd. Mae ‘categori pump’ yn golygu ardal sydd wedi’i rheoli’n bennaf ar gyfer hamdden a chadwraeth y dirwedd.
Yn ymarferol, mae hynny’n golygu ein bod yn ‘dirwedd fyw’ neu’n ‘dirwedd ddiwylliannol’. Rydym ni mewn ardal lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Mae’r ffermwyr a’r tirfeddianwyr sydd wedi llunio’r cefn gwlad ers cenedlaethau yn dal i ofalu am ran helaeth o’r dirwedd. Yn wahanol i aelodau o’n teulu yn UDA a thu hwnt, nid ardal wyllt mohonom, does dim mynedfa na thâl mynediad.
Darllenwch fwy yn ein taflenni gwybodaeth:
Parciau Cenedlaethol – Tarddiad a Datblygiad.
Gweler hefyd: Ein Pwrpas a’n Dyletswydd
Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol
Campaign for National Parks (CNP) yw’r elusen genedlaethol sy’n ymgyrchu i warchod a hyrwyddo Parciau Cenedlaethol er lles a mwynhad tawel pawb. Mae CNP yn gorff ymbarél i bron 40 o grwpiau amgylcheddol a grwpiau harddwch ledled Cymru a Lloegr. Nod CNP yw rhoi gweledigaeth a llais cytûn i’r sector gwirfoddol ar yr holl faterion sy’n ymwneud â Pharciau Cenedlaethol.