Cynllun Cyhoeddi

Cefndir

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) yn amlinellu hawliau’r cyhoedd i gael mynediad at wybodaeth sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus. Dan y Ddeddf, mae dyletswydd ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Yr Awdurdod) ynghyd ag awdurdodau cyhoeddus eraill i fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi, ac i gyhoeddi gwybodaeth yn unol â’r cynllun.

Mae gan unrhyw bobl sy’n gwneud cais am wybodaeth hawl i gael gwybod a yw’r wybodaeth y gofynnir amdani’n cael ei chadw gan yr awdurdod ac, os ydyw, mae ganddynt hawl i gael yr wybodaeth honno, yn amodol ar unrhyw esemptiadau. Mae’r cynllun cyhoeddi hwn yn amlinellu’r dosbarthiadau o ddeunydd sy’n cael eu cyhoeddi a’u cadw gan yr Awdurdod ar hyn o bryd.

Sylwer: er bod y rhan fwyaf o wybodaeth ar gael ar ein gwefan, os oes arnoch angen gofyn am gopïau papur, yna gall yr Awdurdod godi tâl am ddarparu’r wybodaeth hon.

Mae’r cynllun isod yn rhestru gwybodaeth dan saith dosbarth eang.

CYNLLUN CYHOEDDI