Mae ein nodau a’n gweledigaeth am yr ugain mlynedd nesaf wedi’u nodi mewn dogfen o’r enw Cyfeiriad i’r Dyfodol.
Mae’r ddogfen Cyfeiriad i’r Dyfodol yn cydnabod pwysigrwydd dynodiad y Parc Cenedlaethol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n rhoi cynaliadwyedd ar flaen ein meddwl.
Mae Cyfeiriad i’r Dyfodol yn cyflwyno ein gweledigaeth drwy gyfrwng y tri maes allweddol hyn:- Cadwraeth a Gwella; Hybu Dealltwriaeth, a Chymunedau Cynaliadwy Bywiog.
Sut byddwn ni’n cyflawni’r weledigaeth hon?
Rydym yn llunio dwy ddogfen bwysig iawn sy’n sail i’r holl waith a wnawn:-
- Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol
- Yr Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Gwella
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y dogfennau hyn?
Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn gynllun ar gyfer holl ardal y Parc. Mae’n cynnwys camau gweithredu nid yn unig ar gyfer y rheini sy’n gweithio i’r Parc Cenedlaethol, ond hefyd i’r holl sefydliadau partner sy’n cyfrannu at reoli’r dirwedd arbennig iawn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r Adroddiadau Blynyddol a’r Cynlluniau Gwella yn gynlluniau ar gyfer y Parc Cenedlaethol fel Awdurdod. Maent yn cynnwys ein Hamcanion Corfforaethol a’n Targedau Gwaith Allweddol. Maent hefyd yn nodi Dangosyddion Perfformiad sy’n dweud wrthym pa mor dda ydym o ran cyflawni ein hamcanion a’n targedau.
Trosi’r weledigaeth strategol yn gynlluniau a strategaethau manwl.
Mae’r ddwy ddogfen uchod yn sail ar gyfer yr holl gynlluniau a strategaethau manwl eraill rydym yn eu cynhyrchu.