Ffiniau Caeau Âr

Er bod y rhan fwyaf o’n systemau amaethyddol modern yn hepgor y “chwyn” hyn i hybu cynhyrchiant, mae cyfle ar hyd ffiniau’r cae i greu’r ardaloedd hyn sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt. Lle bydd hadau yn cael eu chwythu i mewn, neu lle bo ffiniau caeau’n llai cynhyrchiol, mae rhai ffermwyr yn gadael ffiniau caeau er mwyn i flodau gwyllt dyfu. Mae’r ardaloedd hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer nifer o rywogaethau adar oherwydd y gorchudd a’r bwyd maent yn eu cynnig. Mae’r perlysiau tal a’r blodau eraill yn noddfa bwysig ar gyfer mamaliaid bach, yn enwedig lle caiff y cae ei gynaeafu.

Gall yr ymylon gwyllt hyn ddod â manteision i’r fferm hefyd. Mae’r ardaloedd hyn yn annog pryfed megis buchod coch cwta, sy’n hoffi bwyta rhai plâu cnydau.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler:

RSPB: Cyngor i ffermwyr ar ffiniau caeau âr.

Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd glaswelltir a thir fferm drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.