Rhywogaethau Glaswelltir a Thir Fferm.

Mae’r ddolgapan binc yn fadarchen lachar, hardd, sy’n tyfu ar laswelltiroedd byr. Mae pob math o ffwng yn byw fel ffilamentau bach yn y pridd ac mae’r madarch rydych yn eu gweld yn fodd i’r ffyngau ddosbarthu eu sborau a dechrau’r genhedlaeth nesaf. Mae ffyngau, yn debyg i’r ddolgapan binc, yn cael eu lladd yn hawdd drwy unrhyw darfu megis aredig neu newidiadau i gemeg y pridd megis defnyddio gwrteithiau. Mae dolgapanau pinc ond i’w cael erbyn hyn lle nad yw’r tir wedi’i ffermio’n ddwys o’r blaen.

Mae tafod y ddaear olewydd yn ffwng bach sy’n gwthio egin megis bysedd yn uwch nag arwynebedd glaswelltiroedd sydd wedi’u tocio’n fyr yn yr hydref. Yn debyg i’r ddolgapan binc, mae hwn hefyd yn cael ei golli’n rhy hawdd mewn caeau sydd wedi’u haflonyddu ac mae bellach yn brin ar draws y Parc Cenedlaethol.

 

Mae’r brithribin brown yn löyn byw a fu unwaith yn gyffredin ar draws y DU sydd erbyn hyn yn brin ac nid oes ond ychydig o safleoedd iddynt yn y Parc Cenedlaethol.  Mae’r lindys yn bwyta drain duon sy’n brysgwydd cyffredin o berthi. Mae argaeledd y planhigyn hwn sy’n fwyd i lindys yn aml yn pennu pa mor niferus neu gyffredin y mae rhywogaeth o löynnod byw. Er bod drain duon yn gyffredin iawn, mae’r glöynnod byw hyn wedi gostwng oherwydd y ffordd y caiff y perthi eu rheoli. Mae’r glöyn byw llawn dwf yn deori ei wyau ar egin newydd meddal y ddraenen ddu lle maent yn aros dros y gaeaf ac yn deori yn y gwanwyn. Yn anffodus, caiff y drain duon mewn perthi eu torri bob blwyddyn yn aml a chaiff yr wyau ei difa gan dorwyr y perthi. Dyna’r hyn sydd wedi achosi’r gostyngiad enfawr yn y DU.

Gweler rhagor o wybodaeth o Butterfly Conservation on the Brown Hairstreak.
 
Roedd yr ysgyfarnog frown yn gyffredin yng nghynefinoedd agored Cymru ar un adeg. Maent yn ffafrio glaswelltiroedd agored a chaeau âr, sy’n cynnig golwg ddi-rwystr iddynt ar yr ardal gyfagos fel y gallant wylio rhag ysglyfaethwyr posibl. Mae newidiadau mewn amaethyddiaeth wedi cael cryn effaith ar niferoedd ysgyfarnogod yn arwain at golli cynefin addas neu gynefin heb ei newid. Dim ond niferoedd llygoden y dŵr sydd wedi gostwng yn fwy na hyn dros yr ychydig ddegawdau diwethaf.

Darllenwch fwy am Gwarchod yr Ysgyfarnog Frown gan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Helwriaeth.