Rhostir Pori

Mae’r glaswelltiroedd hir a gwydn yn cynnig gorchudd a chysgod, sy’n golygu bod rhostir pori’n hoff gynefin i adar megis gïach a gylfinir. Mae Brith y Gors yn löyn byw sy’n nodwedd arbennig o’r cynefin hwn, gan fod y cynefin hwn yn cynnwys planhigion y mae’n ei fwyta, fel Bara’r Cythraul a’r sypwellt trwchus sy’n cysgodi’r lindys yn ystod y gaeaf.

Mae gan dir pori’r rhostir yn y Parc Cenedlaethol nifer o’r enghreifftiau gorau yn y byd o Frith y Gors. Mae’n hanfodol bod y cynefin hwn yn cael ei gynnal drwy gael gwartheg a cheffylau’n pori ar ddwysedd isel. Mae glaswelltiroedd gwydn y cynefin hwn yn annymunol i ddefaid. Mae llawer o ardaloedd eraill wedi colli’r cynefin hwn drwy annog glaswelltiroedd eraill i ffynnu fel bod modd ffermio defaid.

 

Gallwch archwilio mwy o laswelltiroedd a chynefinoedd tir fferm drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith.