Cors bori’r gorlifdir

Lle mae’r ardaloedd hyn wedi cael eu pori, mae cynefin glaswelltir cyfoethog wedi’i greu. Caiff y caeau sydd wedi’u pori eu cadw ar wahân bob amser gan ffosydd i helpu draenio ac, yn aml, maent yn planhigion ac infertebratau. Caiff bron pob ardal ei phori er y caiff rhai eu torri am wair neu silwair. Gallai rhai glaswelltiroedd gynnwys cafnau tymhorol sy’n llawn dŵr a phyllau parhaol. Yn aml, maent yn agos at ardaloedd o ffen neu wern cyrs.

Mae ardaloedd o byllau bas yn y misoedd gwlypach yn gartref i niferoedd mawr o infertebratau bach yn y pridd ac maent yn ardal fwydo bwysig ar gyfer nifer o adar gwlypdir megis cornicyllod a chorhwyaid.

 

Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd glaswelltir a thir fferm drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.