Perllannau a reolir yn draddodiadol

Er mai dim ond perllannau bach a gwasgaredig sy’n bodoli yn y Parc Cenedlaethol, gallant fod yn ardaloedd pwysig i fywyd gwyllt. Yn aml, mae’r coed yn hen ac wedi’u gorchuddio â mwsoglau a chennau y mae rhai ohonynt yn brin erbyn hyn, gan eu bod ond yn byw ar hen goed.

Gall y nifer fawr o flodau sydd ar gael pan fo’r coed yn blodeuo fod yn ffynhonnell fwyd bwysig i wenyn a phryfed eraill. Yn aml, lle y bydd perllannau’n bodoli o hyd, mae’r tir o’u hamgylch hefyd o werth mawr i fywyd gwyllt gan y gallai fod wedi bodoli fel hyn am flynyddoedd lawer.

Nid yw hen wrychoedd a choed sydd o amgylch y berllan wedi’u symud ac nid yw’r glaswelltir o dan y coed erioed wedi’i aredig neu’i wrteithio, sy’n golygu y gallai fod llawer o flodau gwyllt a ffyngau’n byw ymhlith y coed ffrwythau.

Mae cyngor ar reoli Perllannau ym Mhowys ar gael gan Prosiect Perllannau Powys.

 

Gallwch archwilio mwy o laswelltiroedd a chynefinoedd tir fferm drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.