Mae’n anodd diffinio ardal y Ffridd o ran cymuned lystyfiant unigol gan mai ei phrif nodwedd yw casgliad o gynefinoedd amrywiol. Gellid ei disgrifio orau o bosibl fel mosaig o gynefinoedd gwasgaredig ac amrywiol sydd i’w cael ar ryngwyneb cynefinoedd uwchdir neu iselder. Mae i’w chael bron yn ddi-eithriad ar lethrau, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny na ellir eu ffermio’n effeithiol oherwydd serthni neu amlder brigiadau creigiog a sgri. Gall Ffridd ddatblygu hefyd ar gyn safleoedd planhigfeydd conwydd sydd eto i’w hailblannu.
Mae’n grŵp o gynefinoedd rhannol naturiol a gellid ei hadnabod am ei natur ddeinamig gan fod gan ardal Ffridd hanes hir o gylchoedd rheoli cyfnewidiol. Yn aml, bydd Ffridd yn dangos cyfnodau olynnol o ran datblygu coetir o gynefinoedd glaswelltir/rhostir.
Mae ffiniau Ffridd hefyd yn anodd iawn i’w diffinio ac yn aml, bydd yn cydblethu â mosaigau uwchdir mwy diffiniedig uwch eu pen a phorfeydd iseldir a choetir oddi tanynt.
Mae’r amrywiaeth o lystyfiant, cymunedau a nodweddion strwythurol yn golygu bod hwn yn gynefin amrywiol iawn. Nid yn unig y mae’r ardal ffridd hon yn gallu cynnal nifer o rywogaethau, mae wedi’i henwi fel cynefin o gysylltedd uchel gan ei bod yn gallu hwyluso symud gan nifer o rywogaethau. Ni ddylid tanbrisio’r gwerth hwn ac mae ffridd yn elfen hollbwysig ar y dirwedd yn galluogi rhywogaethau i symud yn fertigol wrth iddynt geisio hinsawdd fwy addas yn y dyfodol.