Ar hyn o bryd, mae llai na fil o gesig bridio cofrestredig ar ôl yng Nghymru. Mae’r Melyn Mynydd Cymreig – neu felyn Adran A – wedi’i ddosbarthu erbyn hyn fel brîd prin. Mae ei oroesiad yn dibynnu’n llwyr ar y bridwyr ymroddedig sy’n perthyn i Gymdeithasau Gwella Merlod Mynydd, a dim ond ychydig o’r rhain sydd ar ôl.
Mae gan y merlod gysylltiad hir â Chymru. Maent yn fyr ac yn wydn, wedi’u haddasu’n dda at fywyd ymhlith creigiau a chlogwyni mynyddoedd Cymru. Gyda chyfuniad o natur bwyllog ond sionc, maent wedi gwasanaethu fel ceffylau marchogaeth a cheffylau gwaith dros ganrifoedd.
Er nad oes eu hangen fel merlod pwll neu ferlod diddol erbyn hyn, mae gofyn amdanynt ar gyfer rhywbeth arall y maent yn dda iawn am ei wneud. Y cyfan sydd angen ei wneud yw eu cadw ar y bryniau agored, lle y gallant grwydro mewn greoedd a phori’r cynefinoedd uwchdir. Mae’r merlod Cymreig, sy’n fwy gwydn ac yn fwytawyr llai oriog na defaid, yn berffaith ar gyfer cadw’r uwchdiroedd mewn cyflwr da a gallant bori drwy gydol y flwyddyn, gan eu bod yn ddigon gwydn i dreulio’r gaeaf ar y bryniau.
Yn ddiweddar, comisiynodd yr hen Gyngor Cefn Gwlad Cymru adroddiad i statws merlod mynydd Cymreig o ran pori cadwraethol.
Caiff gwarchod y brîd ei arwain gan Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i weld rhagor o wybodaeth am yr uwchdiroedd neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.