Trechu’r goresgyniad estron

Er gwaethaf dechrau herciog i’r rhaglen waith Rhywogaethau Goresgynnol Anfrodorol yn 2020, cafodd y tîm yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dymor llwyddiannus iawn yn taclo clymchwyn Siapan (Fallopia Japonica) ar lannau Afon Wysg.  Rhywogaeth goresgynnol anfrodorol yw clymchwyn Siapan sy’n amharu ar ein cynefinoedd a’n rhywogaethau, mae hefyd yn broblem sylweddol mewn mannau trefol lle mae’n gallu tyfu mor gryf nes torri trwy goncrit a tharmac a hyd yn oed niweidio eiddo.

Mae Afon Wysg wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd a’i bywyd gwyllt arbennig.  Dangosodd arolygon yn 2018 a 2019 fod clymchwyn Siapan yn dechrau sefydlu a chynefino ar ddwy lan yr afon yn ac o amgylch Aberhonddu, 71 achos o glymchwyn Siapan i fod yn fanwl gywir! Gan ei fod ar rannau uchaf dalgylch Afon Wysg, roedd ardal Aberhonddu yn darged amlwg ar gyfer gwaith rheoli.  Gan weithio ar yr ethos ‘o’r ffynhonnell i’r môr’, byddai rheoli’r haint ar rannau uchaf dalgylch Afon Wysg yn lleihau’r perygl y byddai rhannau o’r planhigion yn cael eu golchi i lawr yr afon ac yn heintio mannau eraill.

Yn 2020, roedden ni’n ddiolchgar o dderbyn grant gan gronfa Llywodraeth Cymru ‘Lleoedd Lleol ar  gyfer Natur’.   Roedd hyn ar gyfer rheoli rhywogaethau estron goresgynnol, helpu i adfer a gwella’r cynefin dŵr croyw yn yr Ardal Gadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Wysg, er budd bioamrywiaeth ac er mwyn i bobl allu mwynhau’r afon.

Galluogodd y grant ni i gyflogi contractwr arbenigol i chwistrellu chwynladdwr ar glymchwyn Siapan ar ddarn 11 cilometr o’r afon o gwmpas tref Aberhonddu.  Roedd ymateb y 25 tirfeddiannwr ar y darn hwn o’r afon yn hynod bositif.  Doedd llawer ddim yn gwybod am y problemau y gallai clymchwyn Siapan ei achosi na hyd yn oed fod yna rywogaethau goresgynnol yn yr ardal.

Doedd yr haf gogoneddus ddim yn parhau’r holl ffordd i’r tymor gorau o reoli clymchwyn Siapan ond, er gwaethaf hyn, a hefyd gyfyngiadau covid-19, llwyddodd y contractwyr i chwistrellu ym misoedd Medi a Hydref 2020 gan drin pob un o’r 71 o’r safleoedd clymchwyn a hyd yn oed ganfod ychydig o rai newydd hefyd.

Ni ellid cynnal arolwg ddilynol llawn yn yr hydref oherwydd llifogydd a chyfyngiadau Covid pellach ond roedd y planhigion wedi cael eu lladd yn dda ar y safleoedd y gallai staff y Rhaglen eu cyrraedd wrth gerdded o’u cartref.

Bydd tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2021 yn dangos pa mor effeithiol oedd triniaeth 2020; y gobaith yw y bydd llawer o’r planhigion wedi’u lladd a, gyda lwc y bydd yn cymryd llawer llai o amser, ac yn rhatach, i drin y gweddill sy’n dal yn fyw.  Rydyn ni’n chwilio am ragor o arian ar gyfer y triniaethau dilynol hyn yn 2021 a 2022.  Unwaith y bydd yr ymlediad o dan reolaeth gellir cynnal rhaglen fonitro llawer llai yn achlysurol.

Hoffai’r tîm Rhywogaethau Goresgynnol Anfrodorol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddiolch i’r arianwyr (Llefydd Lleol ar gyfer Natur), Cyfoeth Naturiol Cymru (am help gyda’r caniatadau ar gyfer y chwynladdwr), y contractwr (Phlorum) ac, yn fwyaf arbennig y 25 o dirfeddianwyr ar hyd afon Wysg a oedd, yn ddieithriad, yn falch o weithio gyda ni ar y prosiect hwn.  Ymlaen i 2021!

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Beverley Lewis

Cydlynydd Rhywogaethau Goresgynnol Anfrodorol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Beverley.Lewis@beacons-npa.gov.uk, 07854 997 508.